Rydym yn fusnes meddalwedd bach a chanolig a leolir yng Nghasnewydd sy'n canolbwyntio'n arbennig ar wella cymwysiadau'r we a gwefannau drwy adnodd amlieithog (yn achos Cymru ac Iwerddon – dwyieithog) gan ddefnyddio ein datrysiad LinguaSkin.
Mae LinguaSkin yn mewnosod dewisydd iaith fel y gall defnyddiwr ddewis ei iaith cyn disodli'r holl destun yn rhyngwyneb y defnyddiwr â thestun sydd wedi'i gyfieithu ymlaen llaw. Gwna hyn heb fod angen gwneud unrhyw newidiadau i'r cymhwysiad, felly mae'n ddelfrydol i ddatrysiadau trydydd parti a chwmwl.
Defnyddir LinguaSkin gan fwy na 30 o sefydliadau yng Nghymru i wneud ceisiadau ar-lein, o system hunanwasanaeth adnoddau dynol i gynllunio, derbyniadau myfyrwyr a thaliadau arian cinio ysgol, ac mae'n ddwyieithog ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau o ran y Gymraeg.
Caiff ei ddefnyddio hefyd mewn marchnadoedd dwyieithog eraill, fel Iwerddon, ac yn fwy cyffredinol ar gyfer galluoedd amlieithog, cydymffurfio o ran hygyrchedd ac SEO amlieithog.