Menter gymdeithasol yw Arcswood sy’n cynnig gwasanaethau cynnal tiroedd a choetiroedd, gwaith coed a hyfforddiant. Mae wedi’i lleoli yn y Ganolfan Hyfforddi Sgiliau Gwledig, Sir Benfro.
Rob Howells – Arcswood CIC
“Sefydlwyd Arcswood yn 2012 fel chwaer fenter gymdeithasol i Green Links CIC, er mwyn cynnal incwm o ffynonellau masnachol. Gan ein bod yn gwmni di-elw, gallwn ddenu cyllid o amrywiaeth o ffynonellau yn y sector masnachol sy’n ein galluogi i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n creu budd cymunedol. Mae hyn yn cynnwys darparu lleoliadau a phrofiad gwaith i
bobl ifanc ac oedolion o bob gallu, gan gynnwys pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
“Mae Arcswood wedi cael budd mawr o fynd I ddigwyddiadau cymorth GwerthwchiGymru. Trwy’r broses dendro, rydym bellach wedi cael contract
3 blynedd gyda Chymdeithas Tai Sir Benfro. Mae hyn yn rhoi tawelwch meddwl i’n staff a sylfaen gadarn i ehangu’r cwmni.
Dylai unrhyw gwmni bach neu ganolig fanteisio i’r eithaf ar yr help sydd ar gael yn nigwyddiadau am ddim GwerthwchiGymru. Wedi dweud hynny, ni all GwerthwchiGymru wneud popeth i chi – mae’n rhaid i chi fod yn rhagweithiol a mynd ar y wefan bob dydd i chwilio am gyfleoedd. I gloi, cofiwch sicrhau bod eich proffil yn gyflawn – rhag ichi golli cyfleoedd pwysig!”
01646 686804
Twitter – https://twitter.com/@arcswood
Facebook – https://www.facebook.com/pages/Arcswood-CIC/214078175456053?ref=stream
LinkedIn - https://www.linkedin.com/company/arcswood-cic