Mae porth GwerthwchiGymru yn cynnwys gwybodaeth am weithgaredd caffael gan y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys cyhoeddi Hysbysiadau uwch ac yn is na’r trothwy. Mae hefyd yn ffynhonnell wybodaeth i gefnogi busnesau i ddefnyddio'r safle a chyfeirio at fathau eraill o gymorth busnes sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a'i bartneriaid.
Yn unol â Safonau'r Gymraeg a ddaeth i rym 1 Ebrill 2016, mae'r holl gynnwys rydym yn uniongyrchol gyfrifol amdano yn cael ei gyhoeddi'n ddwyieithog. Cyfrifoldeb yr Awdurdod Contractio sydd wedi cyhoeddi'r Hysbysiad yw’r cynnwys o fewn Hysbysiadau cyhoeddedig. Cyfrifoldeb y safleoedd allanol rydym yn cysylltu â nhw yw i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.
Materion gydag swyddogaeth toglo porth
Nid yw porth GwerthwchiGymru gyda’r gallu toglo 'tebyg i debyg’. Datblygwyd y porth cyn i Safonau'r Iaith Gymraeg ddod i rym ac mae ganddo gyfyngiadau technegol sy'n gwneud galluogi hyn yn anodd.
Rydym wedi asesu'r gost o gywiro’r mater ac yn credu y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur nes bod cod y porth yn cael ei ailddatblygu’n sylweddol. Byddwn yn gwneud asesiad arall ar hyn yn 2023.