Cwmni o Ferthyr Tudful yw Kelray Building Maintenance Ltd sy’n cynnig gwasanaethau adeiladu ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr.
Gyda 30 mlynedd o brofiad o fewn y diwydiant, arferai Carl Raynes, y Rheolwr Gyfarwyddwr weithio fel unig fasnachwr cyn iddo sefydlu cwmni cyfyngedig yn 2004. Mae'r cwmni yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau, adeiladu, rheoli eiddo ac amgylchedd hylan. Rydym yn arbenigo mewn adnewyddu ffatrïoedd a gosod lloriau diwydiannol.
Dros y blynyddoedd, mae llwyddiant Kelray wedi mynd o nerth i nerth ac rydym yn ymfalchïo yn ein henw da a'r berthynas gref a pharhaus sy'n bodoli rhyngom ni â chleientiaid proffil uchel. Yn 2005, roedd Kelray
yn falch o ennill Gwobr Datblygu Busnes am ddatblygu 'Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Effeithlonrwydd Busnes a Hyfforddi Staff'. Wedi hynny, cafodd y cwmni ei wahodd i 10 Stryd Downing i gael cydnabyddiaeth am waith y cwmni o fewn y diwydiant.
Mae Kelray wedi bod yn gweithio gyda GwerthwchiGymru am nifer o flynyddoedd ac mae wedi elwa ar hynny. Rydym wedi bod i nifer o gyfarfodydd ac rydym yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y swyddi sy'n berthnasol i'r math o waith yr ydym yn ei wneud. Rydym wedi cael nifer o gontractau yn sgil ein cysylltiad â GwerthwchiGymru. Y contract mwyaf gwerthfawr inni oedd contract blwyddyn gyda Chyngor Torfaen yn 2011.
Roedd y contract yn cynnwys gwneud gwaith ar dai i bobl ddigartref o fewn eu cymunedau lleol. Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu eiddo gwag a gwneud y gwaith cynnal a chadw yn ôl yr angen. Cyflogwyd staff chwanegol i gwblhau’r gwaith. Gwnaethom fwynhau gweithio ar y prosiect hwn a chynorthwyo'r gymuned.
Wedi inni gofrestru gyda GwerthwchiGymru mae wedi bod yn haws dod o hyd I brosiectau posibl o fewn ein sector, ac mae'n rhoi'r cyfle inni i werthu ein cwmni'n effeithiol i gwsmeriaid.
Gwybodaeth cyfryngau cymdeithasol:
Trydar:@kelrayLTD
Facebook: https://www.facebook.com/KelrayBMLTD