Asiantaeth ddylunio a brandio lwyddiannus yn
ennill bri yng Nghymru ar ôl symud o West Sussex.
Asiantaeth ddylunio a brandio wedi’i lleoli yn Aberhonddu
yw Tangent Partnership Ltd, a Mary
a David Kerfoot sy’n berchen arni ac sy’n gyfrifol am ei rheoli. Aeth
gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ati i helpu’r ddau i symud yn
llwyddiannus i Gymru, a diolch i gymorth tendro pellach, mae’r gwasanaeth wedi
eu galluogi i ennill nifer o gontractau pwysig yn y farchnad leol.
- Cymorth
Rheoli Perthnasoedd i symud i Gymru
- cyngor
tendro yn ymwneud â GwerthwchiGymru a chyflwyno tendrau
- enillwyd
contract gwerth £70,000 gyda Chyngor Abertawe a rhaglen Targedu
Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru
Cyflwyniad i’r busnes
Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, aeth Mary
a David Kerfoot ati i lansio Tangent
Partnership Ltd yn 2000. Asiantaeth ddylunio a brandio yw Tangent, ac
mae’n cynnig gwasanaeth ymgynghori dylunio am bris rhesymol i sefydliadau’r
sector preifat a’r sector cyhoeddus ledled Cymru, y DU ac Ewrop.
Mae’r busnes yn arbenigo mewn gwasanaethau dylunio mewnol a
brandio ar gyfer y diwydiant lletygarwch, gan amrywio o fusnesau sydd newydd
ddechrau i gwmnïau mawr, rhyngwladol.
Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich
busnes eich hun?
Cafodd Mary Kerfoot, cyfarwyddwr a phrif ddylunydd mewnol y
cwmni, ei geni a’i magu yn Abertawe. Mae ganddi atgofion melys o Farchnad
Abertawe, yn enwedig o’r cyfnod pan fynychai hen Ysgol Stryd Rhydychen a phan
arferai fynd i’r farchnad amser cinio i wledda ar gocos a theisennau cri. Mae’r
gair ‘hiraeth’ yn mynegi dyhead angerddol am eich mamwlad – mae’n fwy na ‘gweld
eisiau’ eich mamwlad ac mae’n arwydd o’r cwlwm annatod sydd rhyngoch chi a’ch
mamwlad pan fyddwch ymhell oddi wrthi.
Yn 1989 ac 1990 treuliasom flwyddyn yn teithio’r byd, yn
rhannol er mwyn gweld a oeddem yn byw yn y wlad a oedd yn gweddu orau inni.
Daethom ar draws llefydd a oedd wrth fodd ein calon, ond llefydd na allem
weithio ynddynt; a hefyd, daethom ar draws y gwrthwyneb. Ond wnaethom ni ddim
darganfod y lle perffaith, felly dychwelyd i’r DU fu ein hanes. Yna, yn 2016,
cafodd Mary bwl ofnadwy o hiraeth, a chan fy mod yn fodlon cyd-fynd â hi, dyma
ni’n codi ein pac ac yn dod i Gymru. Yn awr, rydym yn rhedeg y stiwdio ddylunio
o Ddefynnog ger Aberhonddu ac mae gennym swyddfa werthu yn Llundain.
Cymorth Busnes Cymru
Yn 2018, cysylltodd Mary a David gyda Steve Maggs, Rheolwr
Perthnasoedd Busnes Cymru, trwy gyfrwng y Ffederasiwn Busnesau Bach, gan eu bod
yn dymuno symud eu cartref a’u swyddfa o Loegr i Bowys. Yn y misoedd cyn iddynt
symud, gwnaeth Busnes Cymru yn siŵr fod Mary a David yn gyfarwydd â’r cymorth
busnes a oedd i’w gael yng Nghymru. Ar ôl iddynt symud, aeth Steve ati i gynnal
adolygiad cyffredinol o’r busnes a chadarnhau beth oedd dyheadau a nodau’r
ddau, gan esbonio mentrau fel Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr
Economi, y Contract Economaidd a’r amrywiol Fargeinion Twf ledled Cymru, yn
ogystal â rhaglenni’n ymwneud yn benodol â Chanolbarth Cymru, fel Targedu
Buddsoddiad mewn Adfywio. Cafodd y ddau gymorth gan Guto Carrod, Cynghorydd
Tendro arbenigol Busnes Cymru, ynghylch defnyddio platfform GwerthwchiGymru, ac
aeth ati i helpu Tangent i dendro am gontractau lleol.
O ganlyniad, penderfynodd Tangent Partnership weithio gydag un
o gleientiaid Busnes Cymru, sef RW Evans a’i Fab, ar brosiect amlddisgyblaethol
a oedd yn cynnwys gwaith dylunio, brandio ac ymgynghori cyn agor safle gwerthu
newydd yn Aberhonddu. Ymhellach, yn dilyn cyfle ar GwerthwchiGymru, llwyddodd
David a Mary i ennill contract gwerth £70,000 trwy gyfrwng Cyngor Abertawe a
rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r
Cyngor, masnachwyr a’r cyhoedd i drawsnewid ac ailwampio ardal fasnachu
ysbeidiol Marchnad Abertawe.
Canlyniadau
- Cymorth
Rheoli Perthnasoedd i symud i Gymru
- cyngor
tendro yn ymwneud â GwerthwchiGymru a chyflwyno tendrau
- enillwyd
contract gwerth £70,000 gyda Chyngor Abertawe a rhaglen Targedu
Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru
Fe wnaeth y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chyngor Sir Powys
ein cyflwyno i Steve Maggs. Daeth Steve draw i’n gweld ym mis Ebrill 2019 er
mwyn cael golwg gyffredinol ar y busnes. Rhoddodd ni mewn cysylltiad â Guto
Carrod, Cynghorydd Tendro, yn ogystal â Cyflymu Cymru i Fusnesau i gynnal
adolygiad o’n gwefan.
Mae Guto wedi bod yn hollbwysig o ran ein helpu i baratoi
ar gyfer tendrau. Mae wedi ein cyflwyno i GwerthwchiGymru ac wedi ein helpu
gyda chyngor a gwaith papur ar gyfer prosiectau yr oeddem o’r farn eu bod yn
gweddu i ni. Roeddem eisoes yn meddu ar y sgiliau a’r profiad i fynd i’r afael
â’r gwaith ei hun, ond cyfraniad Guto oedd ein cynorthwyo i gyrraedd y pwynt
hwnnw. Llwyddasom i basio adolygiad gwefan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn hollol
ddidrafferth, er ein bod wedi cael ambell awgrym defnyddiol, a bu’r profiad yn
fuddiol ac yn ddifyr. Hefyd, fe wnaethom fynychu gweithdai’n ymwneud â’r
cyfryngau cymdeithasol a seiberddiogelwch. Ochr yn ochr â’r hyfforddiant, mae’r
digwyddiadau hyn wastad yn fuddiol o ran creu cysylltiadau lleol – gyda
chleientiaid a chyflenwyr fel ei gilydd.
Yn ddiweddar, llwyddasom i ennill tendr gyda Chyngor
Abertawe i ailwampio Ardal Fasnachu Ysbeidiol Canol Marchnad Abertawe. Mae a
wnelo’r gweddnewid yn bennaf â chreu ardal gymunol, amlddefnydd ar gyfer
eistedd, cyfarfod, cyfarch, bwyta a chynnal digwyddiadau. Heb Busnes Cymru, ni
fyddem wedi bod yn ymwybodol o’r prosiect.
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn a hanner. Fe wnaethom ennill
nifer o wobrau uchel eu bri, yn cynnwys “Asiantaeth Ddylunio’r Flwyddyn ar
gyfer Caerdydd a De Cymru” yn y Corporate LiveWire Prestige Awards a’r
“Asiantaeth Ddylunio Manwerthu a Lletygarwch Amlddisgyblaethol Orau – Ewrop” yn
yr SME News 2020 UK Enterprise Awards.
Yr hyn rydym yn gobeithio’i gyflawni yn y dyfodol yw dal
ein gafael ar ein cleientiaid presennol (rydym wedi llwyddo i ddal gafael ar
oddeutu 90% hyd yn hyn) ac ehangu ein cleientiaid fel y gellir cynnwys
sefydliadau mwy eu maint o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Rydym eisiau parhau i ddatblygu ein cynnig digidol, yn
cynnwys y wefan, y cyfryngau cymdeithasol, Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
ac apiau symudol, yn ogystal â diweddaru ein caledwedd a’n rhwydweithiau. Rydym
eisiau creu perthnasoedd rhwydweithio gyda sefydliadau sydd ymhellach i ffwrdd;
ond oherwydd y pandemig, dim ond yn lleol yma yn Ne Cymru rydym wedi llwyddo i
wneud hyn hyd yma.
I gael gwybod mwy am Tangent Partnership Ltd,
cliciwch yma: www.thetangent.co.uk
I gael gwybod mwy am gymorth Busnes Cymru, cliciwch yma: www.busnescymru.llyw.cymru