Hanes
Byr
Sefydlwyd y cwmni gan Jo Clay 5 mlynedd yn ôl yn dilyn 18
mis o waith ar y cyd gyda Vi-Ability yn sefydlu, cyflwyno a rheoli rhaglen
wirfoddolwyr ryngwladol lwyddiannus iawn "India Adventure".
Ar 6 Mai 2021 dathlodd Empower – Be The Change ei
ben-blwydd yn 5 oed. Mae'r cwmni wedi tyfu'n gynt yn ystod y cyfnod hwn: ym
mlwyddyn un fe wnaethom rymuso 35 o bobl ag incwm o £17,000; erbyn blwyddyn
pump roeddem wedi grymuso 500 o bobl ac roedd gennym incwm o £145,000.
Pryd oeddwn
yn teimlo fwyaf balch
Rydym yn falch iawn o'n gwobrau a'n cydnabyddiaethau o fewn
y diwydiant:
• Social Enterprise UK: Rownd Derfynol 2021 – Tîm y
Flwyddyn, Anrhydeddau y DU 2020, Rownd Derfynol 2018 – Addysg, Hyfforddiant a
Chyflogaeth
• Busnes Cymdeithasol Cymru: Rownd Derfynol 2021 – Tîm y
Flwyddyn & Tech for Good, Cymeradwyaeth Uchel 2019, Enillwyr 2018 – Addysg,
Hyfforddiant a Chyflogaeth
• Busnes Cymdeithasol Wrecsam: Enillwyr 2017 – Cwmni newydd
ac effaith gymunedol
• Gwobrau Mentora Busnes Cymru 2018 - 2019 – Gwobr Mentora
a Mentor y Flwyddyn
Ydych
chi'n defnyddio'r Gymraeg yn eich busnes?
Mae gennym aelodau o'r tîm sy'n rhugl yn y Gymraeg ac mae
hyn wedi helpu i gyflwyno cyrsiau mewn ardaloedd sy'n siarad Cymraeg.
Beth
fu eich her fwyaf hyd yma?
Fel bron pob cwmni arall, roedd yr her a gyflwynwyd gan
Covid yn waeth na’r un her arall. Rydym
yn falch iawn o'r ffaith, ym mis Mawrth 2020 pan ddaeth y byd i ben, ni ddaeth Empower
– Be The Change i ben. O fod yn gyfan-gwbl yn yr ystafell ddosbarth cyn y
pandemig, addaswyd ein holl raglenni i’w cyflwyno ar-lein, gan gynnwys creu
cynnyrch hyfforddi pwrpasol i helpu pobl i ymdopi â'r arferion a'r systemau
newydd oedd wedi'u gorfodi gan y cyfnod clo a gweithio o gartref. Bu inni gynyddu
ein gweithlu hyd yn oed yn ystod y pandemig. I fod yn onest gallem fod wedi rhoi hyn yn yr adran 'Pryd oeddwn yn
teimlo fwyaf balch' hefyd ...
Ni fyddem wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol – mewn
gwirionedd rydym wedi croesawu ein ffordd newydd o weithio i'r fath raddau fel
ein bod wedi dewis parhau i weithio gartref ac mae ein darpariaeth ddigidol yn
mynd o nerth i nerth.
Beth
yn eich barn chi yw manteision defnyddio GwerthwchiGymru?
Fel menter gymdeithasol sy'n gweithio yn y sector
gwasanaethau, mae derbyn gwybodaeth am dendrau yn uniongyrchol yn ein mewnflwch
yn amhrisiadwy a gan ein bod yn gwmni bach gallwn ymateb yn gyflym iddynt sy'n
wych.
Unrhyw
awgrymiadau y byddech yn eu rhoi i fusnesau eraill
Peidiwch â rhoi'r gorau iddi, a daliwch ati – os yw'r 18
mis diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, ein bod i gyd yn llawer mwy gwydn nag
oeddem yn sylweddoli ... ond inni wybod ble i ddod o hyd iddo,
www.empower-bethechange.org
Twitter: @Empower_BTC
Facebook: empower.bethechange
Tumblr: empowerbethechange