Fel rhan o waith y Fforwm Adeiladu i godi ymwybyddiaeth a gwella
prosesau talu, mae ei weithgor Seilwaith wedi cynhyrchu set newydd o ganllawiau
syml i'w defnyddio ar gyfer defnyddio cyfrifon banc prosiect (PBA) o fewn
contractau'r sector cyhoeddus, sy'n rhoi sicrwydd llif arian i gontractwyr a
busnesau bach a chanolig.
Un o ofynion allweddol Llywodraeth Cymru a'r Fforwm Adeiladu a
sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig Covid-19 oedd cefnogi'r sector
adeiladu ar y cyd yn enwedig gyda sicrwydd piblinellau gwaith yn y dyfodol a
phrosesau caffael a thalu effeithlon. Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Lee Waters,
"Rwy'n falch iawn bod y Canllawiau Cyfrifon Banc Prosiectau syml hyn wedi
dod allan o'r Fforwm Adeiladu.
"Mae'r canllawiau hyn yn rhoi hyder i gleientiaid, contractwyr
a busnesau bach ynglŷn â thaliadau, yn enwedig yn ystod y cyfnod eithriadol
hwn. Mae'r canllaw yn ategu'r wybodaeth a'r hyfforddiant manwl sydd ar gael
drwy Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru.
"Rwyf wrth fy modd bod rhai Awdurdodau Lleol a chontractwyr
eisoes wedi defnyddio'r canllawiau'n effeithiol, ac edrychaf ymlaen at weithio
gyda'r sector adeiladu i sicrhau sector ffyniannus cynaliadwy sefydlog yng
Nghymru."
Mae defnyddio CBP yn rhoi sicrwydd i gleientiaid, contractwyr ac yn
enwedig BBaChau ynghylch taliadau yn enwedig yn ystod y cyfnod eithriadol
hwn. Mae'r canllaw yn ategu'r wybodaeth
a'r hyfforddiant manwl sydd ar gael drwy gaffael Busnes Cymru a Llywodraeth
Cymru.
Drafftiwyd canllawiau'r PBA gan yr Athro
Rudi Klein ynghyd â Michelle Morgan-Loughman o Actuate UK Wales, ac maent yn
darparu 12 cam syml i gleientiaid a chontractwyr ar sefydlu a defnyddio
Michelle Morgan-Loughman pBA 'Mae wedi bod dros dair blynedd ers i Lywodraeth
Cymru orfodi cyfrifon banc prosiect ac mae ei defnydd eisoes wedi diogelu
llawer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn y gadwyn cyflenwi adeiladu
rhag taliadau hwyr a llif arian.
Gyda diolch i Fforwm Adeiladu Cymru a'i gadeirydd, y Dirprwy
Weinidog Lee Waters AS, ein cydweithwyr yng Chynghrair Ffederasiwn Adeiladu
Cymru a'r Athro Rudi Klein, bydd y canllaw cam wrth gam hawdd hwn yn sicrhau
mabwysiadu ehangach gan fod yr arfer hwn yn rhan annatod o gaffael cyhoeddus ac
yn helpu'r diwydiant i wella o'r pandemig."
Dywedodd Ed Evans Cadeirydd Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru
"Llif arian yw bywyd ein diwydiant a gobeithiwn y bydd y canllaw syml hwn,
a baratowyd ac a gyhoeddwyd drwy bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a
phreifat, yn annog cleientiaid yn y sector cyhoeddus i chwarae eu rhan wrth
helpu busnesau.
Bydd sefydlu Cyfrifon Banc Prosiect yn diogelu arian sy'n ddyledus
i'r gadwyn gyflenwi, yn cyflymu taliadau ac yn sicrhau, yn yr achosion gwaethaf
o gontractwyr mawr sy'n mynd i'r wal, nad yw busnesau llai ar eu colled."