Mae'r Diwydiant Adeiladu yn chwarae rhan bwysig wrth
gefnogi datblygiad economaidd yng Nghymru a'r effeithiau cadarnhaol a ddaw yn
sgil hynny ar ein cymdeithas a'n pobl. Mae'r diwydiant adeiladu yn parhau i fod
yn alluogwr mawr i economi Cymru er gwaethaf wynebu heriau ac ansicrwydd mawr.
Ond y ffordd rydyn ni'n ymateb gyda'n gilydd i'r heriau hyn
sy'n wirioneddol bwysig. Mae'r sector yn chwarae rhan annatod wrth helpu i osod
Cymru ar lwybr i ddarparu Cymru wyrddach, tecach a mwy llewyrchus. Creu
amgylchedd economaidd i gefnogi lles y boblogaeth a chynyddu ffocws ar
gynhyrchiant a thwf, lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Yn 2023 amcangyfrifir bod gan y diwydiant adeiladu yng
Nghymru gyfanswm allbwn o tua £7.8 biliwn, 8,230 o gyflogwyr yn y sector
adeiladu sy'n 14% o holl gyflogwyr y wlad. Y sector oedd â'r gyfran fwyaf o
gyflogaeth mewn mentrau bach/canolig (BBaCh) yng Nghymru.
Ym mis Rhagfyr 2023, dangosodd y mynegai tueddiad hirdymor
ym maes adeiladu gynnydd o 26.5% i Gymru a chynnydd o 2.1% i'r DU o'i gymharu
â'r 12 mis blaenorol.
Yn 2024 roedd cynnydd yn y galw am swyddi adeiladu
(peirianneg ac ati) gyda disgwyl twf yn y sector ar gyfradd recriwtio flynyddol
o 2,200 o weithwyr.
Ym mis Mawrth 2024, roedd gan y sector oddeutu 100,000 o
swyddi gweithlu. Bydd angen cyfwerth ag 11,000 o weithwyr ychwanegol yn y wlad
rhwng 2024 a 2028.
Y lefel recriwtio bresennol o fewn Diwydiant Adeiladu Cymru
yw 8,900 o weithwyr y flwyddyn, mae gan y galwedigaethau canlynol rai o'r
gwerthoedd gofyniad recriwtio cryfaf: Crefftau gosodiadau trydanol (350 y
flwyddyn) Bricwyr a seiri maen (290 y flwyddyn) Cyfarwyddwyr, swyddogion
gweithredol ac uwch reolwyr (290 y flwyddyn).
Darllen mwy
Cynlluniau prynu ar gyfer Awdurdodau Lleol: Dogfennau
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i: Welsh Construction Forum | Business Wales (gov.wales)