Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae’r contract hwn ar gyfer creu pecynnau e-ddysgu i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gwahoddir ceisiadau gan gwmnïau addas i greu tri phecyn e-ddysgu yn cynnwys fideos ar:
Gynllunio a rhedeg sesiwn chwaraeon
Pecyn e-ddysgu yn cynnwys fideos a gwybodaeth am wahanol agweddau sydd angen eu hystyried wrth gynllunio a rhedeg sesiwn. Dylid cynnwys:
• Sut i osod nodau ac amcanion sesiwn chwaraeon
• Sut i greu cynllun
• Agweddau i ystyried
• Cynllun argyfwng
• Asesu risg
• Gwerthuso sesiwn
• Sgiliau sydd angen wrth redeg sesiwn
• Ffactorau sydd angen eu hystyried
Swyddogaethau a chyfrifoldebau
Pecyn e-ddysgu yn canolbwyntio ar wahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau o fewn y maes chwaraeon. Y bwriad yw galluogi dysgwyr i ddeall pa swyddogaethau a chyfrifoldebau i’w disgwyl mewn gwahanol swyddi yn y maes.
Dylid cynnwys:
• Swyddogaethau perthnasol
• Cyfrifoldebau
• Pwysigrwydd swyddogaethau a chyfrifoldebau
• Effaith swyddogaethau a chyfrifoldebau
Gweithio yn y diwydiant
Pecyn e-ddysgu yn canolbwyntio ar y gwahanol swyddi sydd ar gael â pholisïau perthnasol sydd yn cael eu defnyddio mewn bywyd gwaith. Noder bydd peth gorgyffwrdd rhwng y pecyn hwn a’r pecyn swyddogaethau a chyfrifoldebau a dylid cynllunio ar gyfer hynny er mwyn sicrhau bod y gorgyffwrdd yn adeiladu ar ac yn atgyfnerthu’r dysgu a wneir yn y ddau becyn.
Dylid cynnwys:
• Gwybodaeth am y gwahanol swyddi sydd ar gael yn y gwahanol ddiwydiannau o fewn y maes chwaraeon.
• Sgiliau sydd eu hangen.
• Disgwyliadau
• Polisïau gan gynnwys polisïau ac arfer dda i ddiogelu ac amddiffyn plant
• Terfynau Proffesiynol
• Agweddau rheoleiddiol a chyfreithiol
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=142243 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|