Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfarwyddiadau ar gyfer Mynegi Diddordeb a Gweld y Dogfennau Perthnasol
1. Mewngofnodwch i borth e-gaffael Proactis Plaza yn https://supplierlive.proactisp2p.com
2. SYLWCH - Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar y porth Proactis, mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch manylion presennol a dechreuwch ar Gam 14 y cyfarwyddiadau hyn. Os nad ydych wedi gwneud hynny, ewch i GAM 3.
3. Cliciwch ar y botwm “Sign Up” ar waelod y ffenestr.
4. Nodwch Enw, Cyfeiriad a Phrif Fanylion Cyswllt eich Sefydliad. Bydd angen i chi greu ID Sefydliad ac Enw Defnyddiwr. Nodwch: os oes gennych gyfeiriad e-bost generig ar gyfer eich sefydliad e.e. tendrau@xxx.co.uk, yna defnyddiwch hwn fel eich prif gyfeiriad e-bost cyswllt gan y bydd hyn yn eich galluogi i dderbyn negeseuon hyd yn oed os bydd unrhyw berson penodol sydd yn y swydd hon ar hyn o bryd yn symud ymlaen yn y dyfodol.
5. Cofiwch gofnodi ID ac Enw Defnyddiwr eich Sefydliad, yna cliciwch ar “Register”.
6. Byddwch yn derbyn e-bost gan y system yn gofyn i chi "Click here to activate your account". Mae hyn yn mynd â chi at Enter Organisation Details.
7. Rhowch yr wybodaeth y gofynnir amdani, cliciwch ar y ">" ar y sgrin a dilyn y cyfarwyddiadau gan sicrhau eich bod yn nodi'r holl fanylion perthnasol.
8. Yn y sgrin Dosbarthiad, sicrhewch eich bod yn dewis y Codau Dosbarthu Cynnyrch (Codau CPV) sy'n ymddangos yn yr hysbysiad tendr, gan y bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i'r broses dendro. Sicrhewch fod y codau dethol yn berthnasol i'ch busnes er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn cael gwybod am gyfleoedd sydd o ddiddordeb i'ch sefydliad chi.
5.1
9. Yn y sgrin Prynwyr, dewiswch Cyngor Sir y Fflint (er gallwch gofrestru gyda sefydliadau prynu eraill ar yr un pryd os dymunwch).
10. Yn y sgrin Prif Fanylion Cyswllt, sicrhewch fod yr holl wybodaeth yn gyflawn. (Gweler nodyn 4 uchod)
11. Derbyniwch y Telerau ac Amodau ac yna cliciwch ar y ">". Mae hyn yn mynd â chi i'r ffenestr Groeso.
12. Yn y sgrin Gorffen, rhowch gyfrinair newydd a gwnewch nodyn o’ch holl fanylion Mewngofnodi ar gyfer y dyfodol.
13. Cliciwch ar "Complete Registration", a fydd yn mynd â chi i’r dudalen Rhwydwaith Cyflenwyr.
14. Ar ganol y sgrin, cliciwch ar "Opportunities". Bydd hyn yn mynd â chi at y rhestr o gyfleoedd sydd ar gael i chi ar hyn o bryd.
15. Cliciwch ar yr ">" sy'n ymwneud â'r hysbysiad hwn; bydd hyn yn mynd â chi i'r PQQ neu'r Cais Tendr, a chliciwch "Register Interest". Sylwch:
Mae’n bosibl y bydd nifer o gyfleoedd yn ymddangos ar y sgrin hon; sicrhewch eich bod yn dewis yr un cywir ar gyfer eich sefydliad.
16. Yn y sgrin "Your Opportunities" nodwch y dyddiad a'r amser cau ar gyfer cwblhau'r prosiect perthnasol. Gwiriwch y tab "Items" (cam Tendr yn unig) a'r tab Dogfennau (PQQ a chamau Tendr) gan y bydd yna wybodaeth sy’n ymwneud â'r prosiect yn y mannau hyn. Mae’r Dogfennau i'w gweld drwy glicio ar y saeth am i lawr o dan y tab Cyffredinol. Sicrhewch eich bod yn lawrlwytho'r holl ddogfennau ar eich cyfrifiadur, gan y bydd gofyn i chi lenwi a llwytho rhai ohonynt fel rhan o'ch cyflwyniad. Mae yna hefyd gyfarwyddiadau ar sut i gwblhau eich cais yn y ddogfen Canllawiau i Gynigwyr sydd yn yr
adran hon.
17. Yn awr, gallwch greu eich ymateb neu ddewis "Decline" ar gyfer y cyfle hwn
PROACTIS SUPPLIER SUPPORT HELPDESK: 03300 050352
(WA Ref:87341)
Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.
|