Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cefndir – Cyfnod 1
Yn 2023/2024 comisiynwyd cyflenwr allanol i gynnal ymchwil ar adnoddau cyfredol sy'n cael eu defnyddio i gefnogi dysgwyr o'r sector gofal cymdeithasol, a'r sectorau blynyddoedd cynnar a gofal plant, gyda'u cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Canfu’r adroddiad ymchwil fod yr adnoddau dysgu a oedd ar gael wedi dyddio ac nad oeddent o reidrwydd o ansawdd digon da. Roeddent yn cynnwys cwestiynau nad oeddent yn sector-benodol ac felly ni allent gefnogi myfyrwyr i gyflawni eu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn effeithiol. Felly daeth yr adroddiad i'r casgliad bod galw sylweddol am adnoddau sector-benodol o ansawdd da, sy'n adlewyrchu rolau a swyddogaethau cyffredinol ac yn canolbwyntio ar gael y sgiliau swyddogaethol sylfaenol yn iawn.
Bydd yr adroddiad ymchwil llawn yn cael ei rannu gyda'r cyflenwr llwyddiannus ar ôl dechrau contract.
Beth sydd ei angen / ‘Y Gofynion’
a Datblygu Adnoddau
Yn dilyn canfyddiadau Cam 1 rydym bellach yn chwilio am gyflenwr â sgiliau a phrofiad addas i weithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill (gan gynnwys cyrff dyfarnu perthnasol) i ddatblygu set o adnoddau cenedlaethol, dwyieithog, hygyrch a sector-benodol i gefnogi gyda dysgu a chyflwyno’r canlynol:
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 a 2
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif ar gyfer Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar Lefel 1 a 2
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 a 2
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu ar gyfer Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar Lefel 1 a 2
Mae'n rhaid i'r cyflenwr sicrhau bod yr adnoddau'n datblygu’r sgiliau gofynnol ar draws llinynnau a lefelau y sgiliau hanfodol, ag yn cyd-fynd ag unrhyw ddatblygiadau ehangach mewn perthynas â Sgiliau Hanfodol Cymru (er enghraifft, o ganlyniad i Adolygiad Cymwysterau Cymru).
Defnyddir yr adnoddau i gefnogi dysgu yng nghyd-destun gofal cymdeithasol. Byddant yn cynnwys tasgau neu weithgareddau s’yn seiliedig ar ofal y gallai tiwtoriaid eu defnyddio yn ystod eu gwersi i helpu i gadarnhau dealltwriaeth a/neu unigolyn yn annibynnol.
b Profi Adnoddau
Ar ôl datblygu’r adnoddau, rhaid i'r cyflenwr hefyd brofi'r adnoddau drwy ymgysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill (h.y. cyrff dyfarnu, darparwyr dysgu, dysgwyr, cyflogwyr, arbenigwyr pwnc a grwpiau cynghori perthnasol). Bydd hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr adnoddau'n effeithiol, yn berthnasol ac yn hygyrch.
Rhaid i'r cyflenwr ddefnyddio canlyniad y prawf hwn i gynhyrchu'r cynnyrch terfynol.
Allbynnau
Cyfnod 1 (Tachwedd – Rhagfyr 2024):
Cytuno ar gynllun prosiect a chyflwyno adnodd/cynnig drafft i’w gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Cyfnod 2 (Tachwedd 2024 – Chwefror 2025):
Gweithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i Datblygu a chreu set o adnoddau a deunyddiau i gefnogi dysgu a darparu:
- Lefel 1 a 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lefel 1 a 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif ar gyfer Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar
- Lefel 1 a 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lefel 1 a 2 Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu ar gyfer Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar
Cyfnod 3 (Chwefror 2024 - Mawrth 2025):
Profi’r adnoddau prototeip gyda'r rhanddeiliaid perthnasol, mireinio a chyflwyno'r drafft terfynol i'w gymeradwyo.
Darparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i swyddogion perthnasol Gofal Cymdeithasol Cymru i allu diwygio’r adnoddau a’r deunyddiau yn y dyfodol, os bydd angen.
Cyfieithu adnoddau cymeradwy terfynol ar gyfer defnydd dwyieithog.
Gweler Manyleb am fwy o fanylion
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=144600 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|