Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae’r prosiect Safleoedd a Choridorau Cysylltiedig Allweddol yn ffurfio rhan o Raglen Cysylltedd Digidol Cynllun Twf Gogledd Cymru, gyda Phrosiect Sylw a Chapasiti Symudol Tyfu Canolbarth Cymru yn cael ei ddatblygu drwy ei Raglen Ddigidol gyfatebol.
Bydd y ddwy raglen, o fewn ei rhanbarth perthnasol, yn:
• ymdrin â heriau cysylltedd digidol - i ddatgloi cyfleoedd ac adeiladu ar ein cryfderau.
• yn gwella gallu’r rhanbarth i ddatblygu technolegau ar gyfer y dyfodol - gan sicrhau y gallwn ateb y galw cynyddol am adnoddau digidol ac elwa o gysylltedd cyflym o ansawdd uchel.
Mae’r Prosiect Safleoedd a Choridorau Cysylltiedig Allweddol Uchelgais Gogledd Cymru yn anelu at wella argaeledd gwasanaethau data a llais symudol a gwasanaethau band eang ffibr-llawn i safleoedd masnachol allweddol ar draws y rhanbarth.
Mae Prosiect Sylw a Chapasiti Symudol Tyfu Canolbarth Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarpariaeth llais symudol a data ar draws y rhanbarth.
Nod y ddau brosiect yw darparu gwasanaeth 4G ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru gan bob un o'r pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol (MNOs), mae hyn yn cynnwys dan do, awyr agored ac mewn cerbydau mewn lleoliadau allweddol ar hyd coridorau trafnidiaeth ac mewn safleoedd busnes a thwristiaeth.
Pwrpas yr cais am wybodaeth hwn
Mae’r cais am wybodaeth hwn yn ceisio diffinio’r lleoliadau ymyrraeth arfaethedig yng ngham cyntaf o’r rhaglen hon.
I sicrhau hyn, mae cyfres o leoliadau cychwynnol ar gyfer buddsoddiad posibl i wella data symudol a gwasanaethau llais - gan adeiladu ar wybodaeth a data sydd ar gael ar hyn o bryd i Uchelgais Gogledd Cymru a Thyfu Canolbarth Cymru.
Mae darparu gwasanaethau symudol mewn ardaloedd sydd ddim yn fasnachol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn achosi heriau masnachol a thechnegol sylweddol. Mae’r cais am wybodaeth hwn yn ceisio profi diddordeb y farchnad i ddarparu gwasanaethau ac isadeiledd symudol 4G.
Bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn parhau i weithio gyda’r diwydiant a rheoleiddiwr Ofcom i adnabod a gwirio ardaloedd gyda chysylltedd 4G gwael ac ystyried sut gellir ymdrin â’r rhain drwy’r broses hon neu mewn camau gweithgareddau yn y dyfodol.
Amserlen ar gyfer y cais am wybodaeth
Bydd y cais am wybodaeth hwn yn parhau am 8 wythnos o 16 Medi 2024 i 15 Tachwedd 2024.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=144557 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |