Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfarwyddiadau i Fynegi Diddordeb a Chael Mynediad at Ddogfennau
1. Mewngofnodi i Borth E-Gyrchu Proactis Plaza yn https://supplierlive.proactisp2p.com
2. SYLWER - Os ydych eisoes wedi cofrestru ar y porth Proactis, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion presennol a dechreuwch yng Ngham 14 y cyfarwyddiadau hyn os na, ewch i GAM 3
3. Cliciwch ar y botwm "Cofrestru" ar waelod y ffenestr
4. Rhowch enw'r sefydliad, cyfeiriad a phrif fanylion cyswllt yn gywir. Bydd angen i chi greu ID ac Enw Defnyddiwr y Sefydliad. Nodwch os oes gennych gyfeiriad e-bost cyffredinol ar gyfer eich sefydliad e.e. tenders@xxx.co.uk yna defnyddiwch hwn fel y prif gyfeiriad e-bost cyswllt gan y bydd hyn yn dal i ganiatáu i chi dderbyn negeseuon o gymharu â lle mae gennych berson penodol a nodir yn y swydd hon a’u bod yn symud ymlaen rywbryd yn y dyfodol.
5. Gwnewch nodyn o ID ac Enw Defnyddiwr y Sefydliad, yna cliciwch ar "Cofrestru"
6. Yna byddwch yn derbyn e-bost gan y system yn dweud "Cliciwch yma i actifadu eich cyfrif". Mae hyn yn mynd â chi i ‘Rhowch Fanylion y Sefydliad’.
7. Rhowch y wybodaeth y gofynnwyd amdani os gwelwch yn dda, cliciwch ar y ">" ar y sgrin a dilyn y cyfarwyddiadau gan sicrhau eich bod yn rhoi’r holl fanylion perthnasol.
8. Ar y sgrin Dosbarthiad sicrhewch eich bod yn dewis y Codau Dosbarthu Cynnyrch (Codau CPV) sy'n ymddangos yn yr hysbysiad tendro gan y bydd hyn yn rhoi mynediad i'r broses dendro. Gwnewch yn siwr bod y codau a ddewiswyd yn berthnasol i'ch busnes i sicrhau eich bod yn cael gwybod am gyfleoedd sydd o ddiddordeb i'ch sefydliad.
9. Ar y sgrin Prynwyr dewiswch Cyngor Sir y Fflint (er y gallwch gofrestru gyda sefydliadau prynu eraill ar yr un pryd os dymunwch)
10. Ar y prif sgrin Manylion Cyswllt dylech sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gyflawn. (Gweler nodyn 4 uchod)
11. Derbyn y Telerau a'r Amodau ac yna clicio ar y ">". Mae hyn yn mynd â chi i'r ffenestr Groeso.
12. Ar y sgrîn Gorffen rhowch gyfrinair newydd a nodi eich holl fanylion Mewngofnodi er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
13. Nawr cliciwch ar “Cwblhau Cofrestru” a byddwch yn mynd i'r dudalen Rhwydwaith Cyflenwr.
14. Ar ganol y sgrin cliciwch ar "Cyfleoedd". Bydd hyn yn mynd â chi at y rhestr o gyfleoedd presennol sydd ar gael i chi.
15. Cliciwch ar y ">" sy'n ymwneud â’r hysbysiad hwn, bydd hyn yn mynd â chi i'r holiadur cyn-gymhwyso neu'r Cais Tendro a chliciwch ar "Cofrestru Diddordeb". Sylwer y gall fod nifer o gyfleoedd sy'n ymddangos ar y sgrin hon, sicrhewch eich bod yn dewis yr un cywir ar gyfer eich sefydliad.
16. Ar y sgrîn "Eich Cyfleoedd" nodwch yr amser a dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r prosiect perthnasol. Adolygwch y tab "Eitemau" os gwelwch yn dda (cam Tendro yn unig) a'r tab Dogfennau (holiadur cyn-gymhwyso a chamau Tendro) gan y bydd yna wybodaeth yn ymwneud â'r prosiect yma. Mae'r dogfennau ar gael drwy glicio ar y saeth i lawr o dan y tab Cyffredinol. Gwnewch yn siwr eich bod yn lawrlwytho'r holl ddogfennau ar eich cyfrifiadur gan y bydd yn ofynnol i chi gwblhau a llwytho rhai o'r dogfennau fel rhan o'ch cyflwyniad. Mae yna hefyd gyfarwyddiadau ar sut i gwblhau eich cyflwyniad yn y ddogfen Canllawiau i Gynigwyr a gynhelir yn yr adran hon
17. Gallwch nawr naill ai greu eich ymateb neu “Wrthod" y cyfle hwn.
18. Unwaith y byddwch wedi dechrau cwblhau eich ymateb i'r cyfle ac yn dymuno ei gadw a dychwelyd yn ddiweddarach cliciwch ar "Cadw". Y tro nesaf y byddwch yn Mewngofnodi i gael mynediad at y cyfle, ewch i'r tab "Cyfleoedd" a nodwch y cais perthnasol wnaethoch ei gadw’n flaenorol.
19. Pan fyddwch wedi cwblhau eich ymateb cliciwch ar "Dilysu" i sicrhau eich bod wedi ateb yr holl gwestiynau. Os nad oes unrhyw wallau wedi eu nodi cliciwch ar "Cadw" i sicrhau bod eich cyflwyniad yn cael ei gadw, yna cliciwch ar "Cyflwyno". Yna byddwch yn cael "Bryslen" gyda’ch cyfeirnod cyflwyniad unigryw. Mae hyn hefyd yn cael ei gadarnhau trwy e-bost.
20. Os ydych yn ychwanegu atodiadau ar unrhyw adeg yn y broses sicrhewch eich bod yn clicio ar y botwm "Ychwanegu i’r Llyfrgell" oherwydd os byddwch yn cael eich gwahodd i unrhyw gyfleoedd dilynol yn y dyfodol i dendro bydd unrhyw ddogfennau yr ydych wedi eu hychwanegu yn cael eu hychwanegu yn awtomatig at eich cyflwyniad a’r cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd sicrhau eu bod y fersiwn gyfredol. Mae hon yn system ddiogel ac ni fydd unrhyw un arall yn cael mynediad at eich dogfennau.
21. Noder bod yn rhaid i unrhyw ymholiadau gael eu hanfon drwy'r adran deialog diogel o'r porth e-dendro. Ni fyddwn yn ymateb i unrhyw ymholiadau a dderbynnir drwy unrhyw ddull arall.
22. Os ydych angen unrhyw gymorth pellach cysylltwch â’r Rheolwr Prosiect fel y nodir ym manylion y prosiect.
Nodwch hefyd fod y Cyngor yn hapus i dderbyn tendrau yn Gymraeg ac yn gwarantu na fydd tendrau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol nag unrhyw dendr arall
(WA Ref:109571)
(WA Ref:133346)
Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.
|