Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cyflwyniad
Mae ISO 27001 yn safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer rheoli a chynnal
diogelwch gwybodaeth mewn busnesau. Mae'n amlinellu'r gofynion am system rheoli diogelwch gwybodaeth (ISMS) ac yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu, gweithredu, cynnal a gwella diogelwch gwybodaeth busnes yn barhaus.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi meddu ar ardystiad ISO 27001:2013 ers 2008, gan gyflawni ein hailardystiad teirblwydd diweddaraf ym mis Ebrill 2024. Rydym yng nghanol pontio i safon 27001:2022 ac i fod i drosglwyddo ym mis Chwefror 2025.
Beth sydd ei angen / ‘Y Gofynion’
Rydym yn chwilio am wasanaeth Archwilydd Mewnol ISO 27001 i werthuso a sicrhau effeithiolrwydd a chydymffurfiaeth barhaus ein System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth (ISMS) yn unol â safon ISO 27001.
Dylai'r archwiliad gael ei berfformio'n annibynnol a chyd-fynd â gofynion safon ISO IEC 27001:2013 (ISO 27001).
Bydd yr Archwilydd Mewnol yn:
- Paratoi a chytuno ar gwmpas archwilio a llythyr ymgysylltu ISMS gyda Gofal Cymdeithasol Cymru;
- Adolygu ac asesu'r dogfennau ISMS, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a rheolaethau yn unol â'r safon;
- Cynllunio a gweithredu archwiliadau mewnol, gan gynnwys paratoi cynlluniau ac amserlenni archwilio;
- Cyfweld â phersonél perthnasol a chasglu tystiolaeth i asesu cydymffurfiaeth ac effeithiolrwydd;
- Gwerthuso gweithrediad asesiadau risg a chynlluniau triniaeth;
- Dadansoddi canfyddiadau archwilio a pharatoi adroddiadau manwl yn amlinellu cryfderau, gwendidau, ac argymhellion ar gyfer gwella;
- Cyflwyno canfyddiadau i uwch reolwyr a rhanddeiliaid perthnasol;
- Cymryd camau dilynol ar ganfyddiadau archwilio blaenorol i sicrhau bod camau unioni wedi'u gweithredu;
Cyflawni yn erbyn unrhyw ganfyddiadau archwilio ardystiad allanol a chamau unioni a dderbynnir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gweler Manyleb am fwy o fanylion
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=145667 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|