Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Beth sydd ei angen / ‘Y Gofynion’
Rydym yn chwilio am gyflenwr sy’n meddu ar sgiliau a phrofiad addas i ddylunio ac i ddatblygu rhaglen beilot ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol ethnig leiafrifol Cymru.
Pwrpas y rhaglen yw grymuso gweithwyr ethnig leiafrifol yn y sector gofal cymdeithasol drwy sicrhau bod ganddynt sgiliau ac adnoddau hanfodol er mwyn iddynt gamu ymlaen yn eu gyrfa, a thrwy hynny, hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb mewn swyddi arwain.
Y gynulleidfa darged o ran cyfranogwyr y rhaglen yw gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol o gefndir ethnig leiafrifol, fel gweithwyr gofal cartref a gweithwyr cartrefi preswyl/gofal, a gyflogir yn y sector ar hyn o bryd sy’n dangos potensial i gamu ymlaen yn eu gyrfa a diddordeb mewn gwneud hynny. Sylwch nad yw hyn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol cymwysedig na myfyrwyr gofal cymdeithasol.
I ddatblygu’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd y cyflenwr yn cydweithio â Gofal Cymdeithasol Cymru i wneud y pethau a ganlyn:
a. Recriwtio a chynnal gweithgor parhaus;
b. Dylunio a chreu elfennau’r rhaglen;
c. Dylunio a chreu pecynnau cymorth y rhaglen;
d. Dylunio rhaglen beilot;
e. Dylunio proses i recriwtio cyfranogwyr a chyflogwyr cymwys i gymryd rhan yn y rhaglen.
Gofynion Dwyieithog
Rhaid i’r cyflenwr sicrhau bod yr holl ddyluniadau terfynol yn gyfan gwbl hygyrch a dealladwy yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys cyfieithu’r holl destun yn gywir (darllenwch adran 5.1 i weld y gofynion gorfodol), gan gynnal ystyr, cyd-destun a pherthnasedd diwylliannol y deunydd gwreiddiol.
Dim ond y drafftiau terfynol cymeradwy y mae’n rhaid eu cyfieithu a’u darparu’n ddwyieithog.
Dull
Gan weithio mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn cynnig dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar glywed safbwyntiau unigolion â phrofiad bywyd a chynrychiolwyr y sector gofal cymdeithasol.
Dylai’r cyflenwyr amlinellu’r dull y byddant yn ei ddefnyddio i gyflawni pob un o’r gofynion yn eu hymatebion ansawdd.
Allbynnau
O ddylunio a datblygu’r rhaglen beilot yn llwyddiannus, bydd yn cyflawni’r allbynnau allweddol a ganlyn:
- Cynnal gweithdai rhyngweithiol
- Elfennau cynhwysfawr a strwythuredig
- Pecynnau cymorth manwl, hygyrch a difyr
- Fframwaith cyflawn ar gyfer rhaglen beilot
- Proses recriwtio sydd wedi’i diffinio’n dda
Rhaid cwblhau’r holl waith erbyn 30 Ebrill 2025.
Gweler Manyleb am fwy o fanylion
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=145649 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|