Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr
Bydd gwasanaethau chwilio anweithredol ar gyfer aelodau'r Bwrdd fel arfer yn cynnwys:
- Os gofynnir amdano, cyngor ar y disgrifiad rôl drafft a chyda Cymwysterau Cymru ac Uned Cyrff Cyhoeddus (UCC) Llywodraeth Cymru
- Ennyn diddordeb a thargedu darpar ymgeiswyr drwy rwydweithiau proffesiynol a chyswllt personol
- Cyfathrebu, cyngor a chymorth parhaus i UCC LlC neu dîm noddi LlC yn ôl y gofyn.
Bydd gwasanaethau chwilio gweithredol ar gyfer uwch staff fel arfer yn cynnwys:
- Adolygu disgrifiad swydd arfaethedig, cyflog a dyluniad y broses recriwtio gyda Cymwysterau Cymru
- Ymgyrchu i hyrwyddo'r rôl a chreu diddordeb
- Targedu darpar ymgeiswyr drwy rwydweithiau a chyswllt personol
- Fetio ar gyfer addasrwydd ac asesu darpar ymgeiswyr fel y cytunwyd gyda'r Cwsmer ymlaen llaw
- Llunio rhestr hir o ymgeiswyr, ynghyd ag adroddiadau manwl ar unigolion
- Cynghori Cymwysterau Cymru ar feini prawf asesu a chanolfannau asesu
- Potensial i ddarparu profion/asesiadau dwyieithog ar-lein at ddefnydd Cymwysterau Cymru
- Cynghori Cymwysterau Cymru ar ymgeiswyr i greu rhestr fer
- Cyfathrebu, cyngor a chymorth parhaus i Cymwysterau Cymru yn ôl y gofyn.
- Cefnogi proses chwilio barhaus os na fydd yr ymgeisydd delfrydol yn cael ei ganfod yn y rownd gyntaf.
|