Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i benodi darparwr cymorth TG a fydd yn gyfrifol am y canlynol:
• Sicrhau bod y systemau TG a’r dyfeisiau TG sydd wedi’u hawdurdodi i fod ar gael gyda tharged o 99%, lle na bydd mwy na 48 awr o amser segur yn digwydd mewn unrhyw un cyfnod di-dor (ac eithrio cyfnodau segur sydd wedi’u cynllunio) i gysylltu â’r Ombwdsmon, wedi’u ffurfweddu’n gywir i weithredu’n effeithiol, ac i reoli seilwaith TG yr Ombwdsmon yn rhagweithiol er mwyn lleihau’r amser segur a chyrraedd y targed cyffredinol.
• Darparu cymorth TG 2il a 3edd linell i Dîm TG yr Ombwdsmon, a fydd fel arfer yn darparu gwasanaeth cymorth rheng flaen y ddesg gymorth i staff yr Ombwdsmon.
• Pan nad yw tîm TG mewnol yr Ombwdsmon ar gael, darparu cymorth rheng flaen i staff yr Ombwdsmon sy’n gweithio yn swyddfeydd yr Ombwdsmon neu gartref yn ymwneud â chaledwedd yr Ombwdsmon a rhaglenni awdurdodedig a’u cysylltiad â rhaglenni’r Ombwdsmon ar faterion brys.
• Monitro, rheoli ac adrodd yn rhagweithiol i’r Ombwdsmon ar faterion diogelwch TG gan gynnwys risgiau maleiswedd a diffiniadau cyfredol o firysau i ddarparu sicrwydd o ran diogelwch holl systemau a gwasanaethau’r Ombwdsmon. O ystyried natur hyblyg gwahanol wasanaethau monitro a maint gweithrediadau’r Ombwdsmon, gwahoddir cyflenwyr i gynnig nifer o opsiynau wedi’u costio o ran lefelau monitro, gan amlinellu’r hyn y mae pob opsiwn yn ei ddarparu, e.e. gwasanaethau awtomatig, yn y fan a’r lle, camau adfer, ymatebion gweithredol, y tu allan i oriau, ac ati.
• Rheoli a monitro copïau wrth gefn o ddata’r Ombwdsmon a gweithio gyda darparwr y datrysiad gwneud copi wrth gefn i gwmwl allanol i roi sicrwydd o ran cywirdeb y data, a chynorthwyo lle bo angen i adfer y data hwn o’r cwmwl (ar gyfer profi ac ar gyfer digwyddiadau go iawn). Ni ddylai copïau wrth gefn fod yn agored i ymosodiadau sy’n ceisio eu hamgryptio, neu fel arall eu hatal rhag bod ar gael i’w hadfer.
• Cysylltu â darparwyr meddalwedd / rhaglenni 3ydd parti dan gontract i helpu i ddatrys problemau neu uwchraddio.
• Darparu gwaith prosiect ychwanegol ar gyfraddau y cytunir arnynt yn brydlon.
Mae’r uchod yn grynodeb o’r prif ofynion. Darperir manylion llawn y gofynion gwasanaeth yn y Fanyleb a welir yn Atodlen 1.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=145245 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|