Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Cwm Taf Morgannwg (CTM) wedi ymrwymo i ddulliau integredig rhanbarthol sy'n darparu deilliannau gwell a mwy cynaliadwy i bobl, teuluoedd a phlant. Mae Awdurdodau Lleol, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, gydag ychydig o fewnbwn gan bartneriaid, wedi bod yn datblygu gwasanaethau yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n helpu teuluoedd mewn modd diogel i aros gyda'i gilydd ac sy’n atal achosion o wahanu plant a rhieni y mae modd eu hosgoi.
Mae angen o hyd i edrych yn fanwl ar ddarpariaeth a llunio ymateb integredig cadarn i les rhieni mewn sefyllfaoedd lle mae gwahanu plentyn a rhieni yn ddeilliant posibl neu’n ddeilliant sydd wedi digwydd, a hynny er mwyn atal plant rhag gorfod derbyn gofal. Mae'r darn yma o waith yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion oedolion yn rhieni a'r gwasanaethau hynny sy'n cael eu darparu iddyn nhw’n oedolion er mwyn gwella eu hiechyd meddwl a lles ac er mwyn atal achosion o wahanu plentyn a rhieni.
Mae'n faes busnes cymhleth sydd angen ymrwymiad cryf i ddatblygu gwasanaethau ar draws y bartneriaeth. O ganlyniad, mae'r tendr yma'n nodi'r angen i gomisiynu darn o waith untro er mwyn dod o hyd i ddarparwr sy'n gallu cyflawni'r canlynol ar ran partneriaid statudol ledled ardal Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys:
1. Mapio'r ddarpariaeth a bylchau presennol ledled ardal Cwm Taf Morgannwg a chasglu tystiolaeth o arferion da o ran cefnogi lles rhieni gydag anghenion emosiynol cymhleth, argaeledd cymorth emosiynol/iechyd meddwl a therapiwtig arbenigol i rieni, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
2. Nodi argymhellion a llunio dull cadarn tuag at ddiwallu angen, fyddai'n gallu gwella lles rhieni ac arwain at lai o blant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni yn yr hirdymor.
NODYN: Mae’r awdurdod yn defnyddio eDendro Cymru i gynnal y broses gaffael hon. I gael rhagor o wybodaeth mynegwch eich diddordeb ar GwerthwchiGymru ar https://www.sell2wales.gov.wales/search/search_switch.aspx?ID=144857
|