Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Bydd asesu aeddfedrwydd digidol gwasanaethau gofal cymdeithasol yn help i nodi ble mae problemau o ran cynhwysiant a diffyg sgiliau, ac felly sut gall Gofal Cymdeithasol Cymru weithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid i gynllunio cymorth ar gyfer sefydliadau gofal cymdeithasol a’u gweithluoedd ledled Cymru.
Bydd yr asesiad aeddfedrwydd digidol hefyd yn sail i waith Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi arloesedd a datblygu’r gweithlu.
Mae asesiad aeddfedrwydd digidol eisoes wedi cael ei gynnal ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru, ond ar hyn o bryd nid oes asesiad o’r fath ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae’r cyd-destun gofal cymdeithasol yn llawer mwy tameidiog na’r sefyllfa ym maes iechyd yng Nghymru, gyda gwasanaethau a chymorth yn cael eu darparu gan filoedd o sefydliadau a darparwyr gwahanol yn y sectorau statudol, preifat a gwirfoddol.
Bydd y gwaith yn cael eu cynnal mewn dwy gam:
Cam 1 - Darganfod
Cam 2 - Dylunio a chyflawni
Dyma nodau cyffredinol y prosiect:
- Nodi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a hyder digidol a thechnolegol ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Hwyluso cynllunio adnoddau a datblygu polisi
- Gwella arloesedd digidol ym maes gofal cymdeithasol
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=136845 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|