Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Caffael Bwyd Cynaliadwy er Ffyniant Lleol
DARPARU OFFER CYNHYRCHU I’W HURIO AR BRYDLES AR GYFER TYFWYR SIR GÂR A’R ARDAL
CYFLWYNIAD I A CHEFNDIR Y PROSIECT
Nod Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, y Rhwydwaith Bwyd Agored, Cultivate, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Foothold Cymru, trwy weithio mewn partneriaeth yw dangos y GALL y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd lleol a ffyniant lleol.
Trwy gydweithio gyda Swyddogion Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Gogledd Powys a Sir Gâr, mae dau Hyb Caffael yn prynu gan dyfwyr bach lleol, gan gydgrynhoi’r cyflenwad ac yn darparu cynnyrch ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n bodloni (neu’n rhagori ar) gofynion o safbwynt hwylustod, cost a chynaliadwyedd.
CEFNOGI TYFWYR
Nod y prosiect yw:
• Creu swyddi newydd yn yr economi lleol.
• Uwchsgilio tyfwyr
• Darparu marchnadoedd cyson ar gyfer tyfwyr a chynhyrchwyr garddwriaeth presennol.
• Darparu hyfforddiant mewn arferion ffermio amaethecolegol yn ogystal â chefnogi mentrau.
• Cynyddu capasiti tyfwyr i fodloni galw cynyddol gan y cyhoedd yn Sir Gâr.
Bydd y prosiect peilot hwn yn wely prawf ar gyfer tyfwyr, Hybiau a chaffaelwyr y dyfodol. Bydd yn paratoi busnesau bach gwledig yn well i ddatblygu mentrau mwy cynaliadwy a hyfyw.
Ein strategaeth hirdymor yw defnyddio’r hyn a ddysgir o’r peilot hwn i ddatblygu’r model, gan gynnwys datblygiadau technolegol, ehangu tyfwyr/cynhyrchwyr a grymuso hyrwyddwyr caffael lleol o fewn y sector cyhoeddus.
Byddwn yn buddsoddi mewn tyfwyr lleol trwy hyfforddiant, rhwydweithiau a thrwy ddarparu offer cyfalaf.
AMLINELLIAD CRYNO
Rydym yn chwilio am sefydliad unigol, sydd â’r awydd, capasiti a gwybodaeth i ddarparu offer i’w hurio ar brydles ar gyfer tyfwyr er mwyn cynyddu eu gallu i gyflenwi’r sector cyhoeddus yn Sir Gâr ac i dyfu mewn ffyrdd sy’n fuddiol i natur.
Yn y lle cyntaf, rhoddir blaenoriaeth o ran mynediad at yr offer i gynhyrchwyr amaethecolegol bach, sy’n cyfrannu at brosiect peilot yr hyb caffael ar fwyd (hyd at 10 tyfwr). Yn y tymor hwy, hwyrach y bydd tyfwyr eraill yn gymwys i hurio offer gan y darparwr.
Ein dyhead yw cael “llyfrgell offer” a reolir yn dda, sydd ar gael i dyfwyr Sir Gâr a’r ardal ar raddfa enwol. Gellir prydlesu offer ar sail hirdymor i dyfwyr penodol a/neu gellir cynnig trefniadau prydlesu tymor byr.
Bydd yr offer yn:
• Helpu tyfwyr i ddefnyddio dulliau mwy cyfeillgar i natur
• Helpu tyfwyr i fod yn fwy cynhyrchiol
• Helpu tyfwyr i ddatblygu a thyfu ystod cynnyrch ehangach
• Helpu tyfwyr i drin eu cynnyrch i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer marchnad y sector cyhoeddus
• Helpu tyfwyr i gludo eu cynnyrch
Bydd gofyn i ddeiliad y contract:
• Weithio gyda’r Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a’r Hyb Caffael Bwyd i asesu anghenion blaenoriaeth tyfwyr lleol, o fewn fframwaith y prosiect hwn.
• Prynu offer gan ddilyn gofynion tendro cystadleuol a rhagweld pa mor hir bydd y “llyfrgell” yn parhau.
• Darparu cytundeb hurio ar brydles i gynnwys gwaith cynnal a chadw ar y safle. Noder: bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn darparu templed o fframwaith cyfreithiol ar gyfer hurio ar brydles.
• Trefnu a goruchwylio cyflenwi, gosod, defnydd cychwynnol a delio gydag unrhyw broblemau sy’n codi wedyn o ran yr offer a gyflenwir.
• Cadw’r holl gofnodion ariannol angenrheidiol mewn perthynas â’r offer:
o Dyddiad prynu
o Disgrifiad o’r offer
o Pris a dalwyd (gan gynnwys TAW net adenilladwy)
o Cyfeirnodau / rhifau adnabod
o Lleoliad yr offer
o Dyddiad cael gwared ar unrhyw offer
o Gwerthu unrhyw offer heb DAW
DS - Ni chaniateir cael gwared ar unrhyw offer, na’i drosglwyddo neu ei wasgaru cyn Medi 2028 heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (WG IoA 36.)
Dylai’r llyfrgell offer fod yn hygyrch i dyfwyr yn Sir Gâr.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=126341 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|