Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Beth yw diben yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw?
Diben yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yw cynnal ymarfer profi meddal ar y farchnad i gael barn y diwydiant ar nifer o ystyriaethau sy'n ymwneud â hwb hydrogen gwyrdd yn rhanbarth y Gogledd.
Bydd y profi meddal ar y farchnad yn ein helpu i gasglu gwybodaeth a safbwyntiau o'r farchnad mewn perthynas â chyflwr presennol y farchnad hydrogen gwyrdd, cyfleoedd a rhwystrau wrth ei datblygu, a'r angen am fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i lunio unrhyw broses gaffael yn y dyfodol ac felly unrhyw gyfle posibl i gontractio. Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn rhagweld y bydd wedyn yn llunio dull dewisol o gaffael/cystadlu.
Nid yw ymateb i'r PIN yma yn gosod unrhyw orfodaeth ar ymgeiswyr i gymryd rhan yn y gystadleuaeth nac ychwaith i Uchelgais Gogledd Cymru symud ymlaen ymhellach gydag unrhyw ofynion.
Mae’r dyddiadau a gwybodaeth a gynhwysir o fewn yr hysbysiad hwn yn ddangosol yn unig, gallent newid ac efallai na fyddent yn adlewyrchiad o unrhyw ITT gall gael ei gyhoeddi yn y dyfodol.
Gall Uchelgais Gogledd Cymru ddefnyddio unrhyw wybodaeth a sylwadau a ddarperir a / neu ohebiaeth derbynnir yn y dyfodol wrth lunio unrhyw ddogfennau tendro terfynol ac mae'r hawl ganddynt i beidio â derbyn unrhyw wybodaeth neu sylwadau gan unrhyw atebwr. Bydd y penderfyniad yn ôl disgresiwn llwyr Uchelgais Gogledd Cymru.
Bydd partïon â diddordeb, ar gost eu hunain, yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer paratoi eu hymatebion i'r PIN hwn.
Ar ôl derbyn y cyflwyniad wedi'i gwblhau, gall Uchelgais Gogledd Cymru hefyd gynnal sesiynau cyflenwyr a chyfarfod â chyflenwyr i drafod eu hadborth o’r ymgysylltiad marchnad.
Ni fyddwn yn asesu cynigion yn ffurfiol yn y cyfnod yma, ac ni fydd unrhyw beth a roddir neu a ddarperir yn ystod y cyfnod yma yn cael ei werthuso fel rhan o unrhyw broses gaffael yn y dyfodol. Rydym yn croesawu ymatebion gan gyflenwyr a sefydliadau sy’n teimlo bod ganddynt syniadau cadarnhaol ar sut y gellir cyflawni ein gweledigaeth o gefnogi datblygiad hwb hydrogen yng Ngogledd Cymru.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=121618 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |