Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Trosolwg o’r Prosiect
Diben y prosiect peilot hwn yw creu sylfaen dystiolaeth i brofi y GALL y sector cyhoeddus gaffael mewn ffordd effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd naturiol a ffyniant lleol. Bydd yn peilota defnyddio Hybiau Bwyd fel cyfrwng i gynhyrchwyr lleol ddarparu maint y cynnyrch a’r dechnoleg sydd eu hangen i gyflenwi’r sector cyhoeddus mewn ffordd effeithiol.
Yn ystod 2020, mae Covid-19 a thrafodaethau ar destun Brexit wedi amlygu llawer o’r problemau sy’n wynebu Cymru o ran cynhyrchu bwyd ei hun, yn enwedig bwyd sy’n gwella iechyd y genedl, sy’n lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, ac sy’n cyfoethogi bioamrywiaeth.
Byddwn yn cefnogi dau Hwb Bwyd (ym Mhowys a Sir Gâr) i ehangu eu cyrhaeddiad a symud i faes caffael, ac ar yr un pryd gwireddu gweledigaeth Hybiau Bwyd o ran model cysylltiedig, lleol sy’n gadarn o safbwynt amgylcheddol.
Mae caffael gwasanaethau yn y DU yn dir peryglus o ran deddfwriaeth, biwrocratiaeth a gwaith papur, a bydd y Bartneriaeth yn cynnig arbenigedd a hyfforddiant i sicrhau mynediad ar gyfer Hybiau a thyfwyr.
Byddwn yn datblygu ac yn addasu technoleg gyfredol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid trwy ddefnyddio systemau caffael, a darparu data ychwanegol i adeiladu’r achos dros y model hwn.
Mae rhanbarthau gwledig Powys a Sir Gâr eisoes yn ystyried dulliau gwaith a chydweithio arloesol i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol. Byddwn yn rhoi cefnogaeth iddynt trwy fuddsoddiad i arallgyfeirio a gweithio tuag at y buddion economaidd ac amgylcheddol arfaethedig sy’n rhan o Fil Sector Amaethyddol (Cymru) sydd ar fin ei gyhoeddi.
Caiff yr astudiaethau achos a’r data a gynhyrchir eu dosbarthu trwy Leoliadau Bwyd Cynaliadwy a rhwydweithiau eraill i annog mwy o brynwyr mawr, tyfwyr a chymunedau gwledig i gymryd rhan.
Y Gofynion Gwerthuso
Bydd y broses gwerthuso’n canolbwyntio ar ddysgu o’r cynllun peilot hwn er mwyn dylanwadu ar weithgaredd a pholisi’r dyfodol i annog cwsmeriaid sy’n caffael bwyd ar gyfer y sector cyhoeddus i flaenoriaethu cadwyni cyflenwi byr ( a thyfu atgynhyrchiol) yng Nghymru. Bydd Hybiau’n defnyddio technoleg y Rhwydwaith Bwyd Agored ac adnoddau eraill i gasglu data trwy gydol y prosiect i ddangos buddion ehangach y model hwn.
Bydd gofyn i adroddiadau gwerthuso gofnodi’r cyfleoedd, yr heriau, llwyddiannau a phwyntiau dysgu o safbwynt:
- Tyfwyr/cynhyrchwyr
- Hybiau Bwyd (cydgasglu cynnyrch a gwerthu i gyfanwerthwyr/yn uniongyrchol i gwsmeriaid)
- Cyflenwyr cyfredol (cyfanwerth)
- Caffaelwyr
Y bwriad yw y bydd eraill mewn mannau eraill yng Nghymru, ynghyd ag unigolion sy’n llunio polisi sy’n cael dylanwad ar reolau caffael yn y sector cyhoeddus yn defnyddio’r ddogfen derfynol fel canllaw. Mae’n rhaid iddi fod yn ddogfen weithredol gydag argymhellion ac astudiaethau achos i ddod â’r model yn fyw, ac mae’n rhaid ystyried y gall, ac y bydd y model hwn (sy’n cael ei ddiwygio ar sail profiad y cynllun peilot), yn cael ei weithredu mewn mannau eraill yng Nghymru.
Gofynion:
• Bydd gwerthuso’n cael ei ymwreiddio i weithgareddau’r prosiect o’r cychwyn cyntaf (ar ôl penodi gwerthuswyr). Bydd gwerthuswyr yn gweithio’n agos gydag arweinydd a phartneriaid cyflenwi’r prosiect a byddant yn cynnig cyngor ac arweiniad i sicrhau fod y broses o gasglu data’n syml ac yn gyson.
• Bydd y broses o gasglu data’n cynnwys data ansoddol a meintiol.
• Bydd gwerthuswyr yn cymryd rhan mewn 8 o gyfarfodydd y Grŵp Llywio i sicrhau y caiff dysgu ei ymwreiddio i gyd-destun ehangach caffael cadwyni cyflenwi byr.
• Bydd gwerthuswyr yn ymweld â safleoedd y ddau Hwb ym Mhowys ac yn Sir Gâr ar gyfer trafodaethau wyneb yn wyneb gyda phartneriaid o leiaf pedair gwaith yn ystod y prosiect.
• Bydd gwerthuswyr yn cwrdd ag amrediad o gwsmeriaid terfynol a chynhyrchwyr er mwyn deall eu profiad ac effaith y cynllun peilot hwn.
• Bydd gwerthuswyr yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r diweddaraf ym maes deddfwriaeth, polisi a mentrau eraill ym maes caffael bwyd yng Nghymru ac yn bellach i ffwrdd, i sicrhau fod yr adroddiad terfynol yn cyd-fynd â strategaethau ac arferion ehangach.
Canlyniadau
• Un adroddiad gwerthuso dros dro.
• Un adroddiad gwerthuso terfynol.
• “Dogfen - Profiadau Dysgu Allweddol” fydd yn cael ei dosbarthu i gaffaelwyr, tyfwyr/cynhyrchwyr, Hybiau a phobl sy’n gyfrifol am bolisi i sicrhau y defnyddir yr hyn a ddysgir o’r prosiect hwn i ddylanwadu ar weithgaredd a pholisi’r dyfodol. Gall y ddogfen hon gynnwys astudiaethau achos fydd yn cael eu cynhyrchu gan bartneriaid cyflenwi eraill, a dylai cynnwys crynodeb o ffeithluniau/sleidiau .
Bydd y Rhwydwaith Bwyd Agored (OFN) a phartneriaid/contractwyr eraill yn casglu data er mwyn dangos buddion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd ac iechyd ehangach cadwyni cyflenwi lleol ac arferion tyfu amaethecolegol.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=121028 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|