Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn sefydlu Rhestr Gymeradwy o Wasanaethau Cymorth Rhianta er mwyn comisiynu ystod o wasanaethau i gefnogi'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.
Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn cynnig mecanwaith sy'n galluogi'r gwasanaeth i ddarparu dull amlasiantaeth o ran cymorth i deuluoedd yn RhCT.
Er mwyn cyflawni dull amlasiantaeth mae angen cymorth ychwanegol ar RCT i ddarparu rhaglenni Rhianta Anffurfiol a rhaglenni rhianta, yn ogystal â darparu ymyraethau therapiwtig.
Bydd y Rhestr Gymeradwy yn cael ei strwythuro'n 3 rhan:
Rhan 1 - Cymorth Rhianta Anffurfiol
Rhan 2 - Rhaglenni rhianta
Rhan 3 - Ymyraethau therapiwtig
Bydd y Rhestr Gymeradwy yn berthnasol am flwyddyn i gychwyn a bydd opsiwn i ymestyn y Rhestr am hyd at 1 + 1 + 1 blwyddyn. Mae’r cyfnod cychwynnol o flwyddyn bellach wedi dod i ben. Erbyn hyn, mae'r Cyngor wedi cychwyn ei estyniad cyntaf, ac mae blwyddyn ynghyd â blwyddyn arall ar ben honno yn weddill.
I weld y tendr, gan gynnwys y tendr llawn, rhaid i chi gofrestru'ch diddordeb yng Nghyfeirnod y Tendr : 89423 ar
https://etenderwales.bravosolution.co.uk/cym/login.shtml
Bydd yr holl gyfathrebu'n cael ei wneud ar borth eDendroCymru. Cyfrifoldeb y sawl sydd ynghlwm â’r Tendr yw sicrhau bod eu manylion cyswllt ar wefan eDendroCymru'n gywir.
NODYN: Mae’r awdurdod yn defnyddio eDendro Cymru i gynnal y broses gaffael hon. I gael rhagor o wybodaeth mynegwch eich diddordeb ar GwerthwchiGymru ar https://www.sell2wales.gov.wales/search/search_switch.aspx?ID=130054
|