Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn ceisio caffael gwasanaethau darparwr neu ddarparwyr at ddibenion darparu Asesiadau o Anghenion Gofalwyr a gwasanaethau cefnogi dilynol ar gyfer gofalwyr di-dâl yn Sir y Fflint.
Nod Cyngor Sir y Fflint yw darparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl sy’n byw yn Sir y Fflint fel eu bod yn gallu blaenoriaethu eu hanghenion iechyd a lles eu hunain, cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw a chynnal eu rôl gofalu, pe byddent yn dewis, yn ddiogel a gyda chefnogaeth.
Bydd y gwasanaethau sydd eu hangen yn cefnogi oedolion sy’n ofalwyr plant ag anableddau corfforol neu feddyliol, mewn amrywiaeth o ffyrdd creadigol ac arloesol ac mewn modd sy’n hyrwyddo annibyniaeth, gwneud y mwyaf o ganlyniadau ac sy’n cael ei ddarparu yn unol â deddfwriaeth berthnasol, fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd hyn yn debygol o gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) darparu datrysiadau seibiant creadigol, gweithgareddau, amrywiaeth o ddewisiadau o ran cefnogi lles, a gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr unigolion gyda chyflwr niwrolegol.
Rhagwelir mai dyddiad dechrau’r contract fydd 1 Ebrill 2024 am gyfnod o 5 mlynedd.
Gwerth blynyddol y contract yw oddeutu: £12,000
Byddwch yn ymwybodol y gallai Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth fod yn berthnasol i’r contract hwn. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ystod y broses dendro lawn.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhannu’r hysbysiad hwn i ganfod faint o ddiddordeb sydd yn y farchnad i ddarparu’r gwasanaeth hwn/ gwasanaethau hyn, gyda’r nod o gynnal ymarfer tendro llawn. Os ydych chi’n teimlo y gallai eich sefydliad ddarparu’r contract hwn, anfonwch neges e-bost at naomi.harper@flintshire.gov.uk i fynegi eich diddordeb, neu os oes gennych chi ragor o gwestiynau am y wybodaeth sydd yn yr hysbysiad hwn, cysylltwch â Naomi Harper ar 07918 616425 cyn dydd Llun 8 Gorffennaf 2024. |