Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Amcanion cynnal y Sioe Deithiol:
Nod y sioe fydd hyrwyddo’r ffaith bod modd cael bywyd llawn yn ARFOR o ran gwaith a bywyd cymdeithasol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn awyddus i ddarparu digwyddiadau bywiog, rhad ac am ddim i deuluoedd yn ardal ARFOR a’u defnyddio fel modd o ymgysylltu â rhieni ardal ARFOR gan drosglwyddo prif negeseuon y prosiect mewn ffordd ysgafn a ffres.
Y bwriad yw cynnal dwy sioe mewn theatrau ym mhob un o siroedd ARFOR, a gwneud taith i fyny neu i lawr arfordir Cymru e.e. gallwn gychwyn ar Ynys Môn a gwneud ein ffordd i lawr i Sir Gâr, neu gychwyn yn Sir Gâr a theithio i fyny i Ynys Môn.
Un o amcanion prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yw herio’r ystrydeb bod angen gadael eich ardal leol er mwyn llwyddo. Rydym am ddarbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda mewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid. Rydym felly am sicrhau bod rhieni ardal ARFOR yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael i’w plant yn ARFOR, gan obeithio eu darbwyllo nad oes angen iddyn nhw na’u plant symud i ffwrdd er mwyn llwyddo. Mae angen i’r sioe ddangos darlun gonest o fyw a gweithio yn ARFOR gan gynnwys y buddion a’r heriau o fyw a bod yn yr ardal.
Yn ddelfrydol, bydd yr actorion yn hanu o ardaloedd ARFOR neu’n byw yn un o siroedd ARFOR ar hyn o bryd. Rydym am glywed trawstoriad o acenion ardaloedd ARFOR yn y sioe.
Yn ogystal â’r perfformiadau eu hunain, bydd hefyd lond llaw o stondinau yno i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i rieni cyn ac ar ôl y perfformiadau. Y bwriad yw creu gofod ymlaciol lle byddai modd i rieni a theuluoedd sgwrsio a chymdeithasu ayyb.
Negeseuon y sioe:
Rydym yn eithaf hyblyg o ran stori'r sioe ac yn barod i wrando ar unrhyw syniadau sydd gennych chi mewn golwg.
Er hyn, mae’n rhaid i’r sioe gyd-fynd â’r canllawiau isod:
Bydd angen i’r sioe:
gael ei pherfformio a’i hyrwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg;
bod yn addas ar gyfer plant ysgol gynradd;
pwysleisio’r negeseuon o bwysigrwydd y Gymraeg a hybu balchder bro, gan fod cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn un o amcanion rhaglen ARFOR;
bod yn fywiog, lliwgar ac yn llawn bwrlwm;
hyrwyddo amcanion prosiect Llwyddo’n Lleol – hynny yw, nad oes angen symud i ffwrdd er mwyn llwyddo, a bod modd cael bywyd cymdeithasol a gyrfaol bodlon yn ardaloedd ARFOR, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. (Gweler rhagor o wybodaeth am y prosiect ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan).
Yn ogystal â’r canllawiau uchod, hoffem i’r sioe fod yn ddiddorol, gan ysgogi pobl i feddwl bod y sioe yn ddarlun gonest ond gyda naws bositif. Rydym yn awyddus i gael sioe arloesol a fyddai ychydig yn wahanol i sioeau traddodiadol eraill i blant e.e. gellir cael elfennau rhyngweithiol yn rhan o’r sioe, lle mae’r gynulleidfa yn rhan o’r stori.
Dyfynbris:
Rydym yn awyddus i dderbyn dyfynbris gennych ar sail darparu gwasanaeth cyflawn o droi ein hedyn syniad yn sgript a sioe o safon sydd â negeseuon clir.
Dylai’r dyfynbris gynnwys yr holl gostau o greu a pherfformio’r sioe, gan gynnwys y costau isod:
Costau cynllunio ac ysgrifennu’r sgript;
Costau castio actorion ac ymarferion;
Costau a threuliau staff ac actorion;
Costau cydlynu’r sioe, gan gynnwys trefnu lleoliadau a dyddiadau ar gyfer y sioe mewn partneriaeth/cydweithrediad â staff Llwyddo’n Lleol. Noder, bydd costau'r lleoliadau/theatrau yn cael eu talu ar wahân ac nid oes angen i chi gynnwys y costau hyn yn eich dyfynbris;
Costau hyrwyddo’r sioe deithiol ar y cyd â Llwyddo’n Lleol ac unrhyw bartneriaid eraill;
Costau set;
Unrhyw gostau perthnasol eraill.
I grynhoi, bydd angen i’r cwmni llwyddiannus gydweithio’n agos â staff y prosiect er mwyn cytuno ar gynnwys a naws y sioe derfynol a chydlynu’r perfformiadau o fewn y daith.
Logisteg:
Yn ddelfrydol, hoffem i’r sioe gael ei chynnal yn ystod wythnos hanner tymor mis Hydref, sef y dyddiadau isod:
28 Hydref – 1 Tachwedd
Os nad yw hyn yn bosib o ran argaeledd ayyb, bydd y penwythnosau o amgylch y dyddiadau uchod hefyd yn gweithio o ran llinell amser y prosiect.
Bydd tocynnau i’r sioe am ddim a’r holl gostau yn cael eu hariannu gan brosiect Llwyddo’n Lleol. Er hyn, bydd angen i’r teuluoedd / plant gofrestru i’r sioeau fel bod gennym amcangyfrif o'r rhai fydd yn dod. Bydd angen sicrhau bod yna broses archebu tocynnau ar gael ar gyfer pob lleoliad, felly.
Cyllideb
Nid ydym am osod cyfyngiad cyllidebol ar gyfer y gwaith hwn. Yn hytrach, croesawn ddyfynbrisiau sy’n cynnwys opsiynau o ran gwariant.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=143147 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|