Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
CYFLWYNIAD A CHEFNDIR
Ffrwd waith 3 yw Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol, un o chwe ffrwd gwaith y prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.
Mae ffrwd waith Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol yn anelu at:
o Ysgogi datblygiad sylweddol ym maes cynhyrchu, storio, a phrosesu ffrwythau, a chynhyrchion ffrwythau sy'n eiddo i'r gymuned, ar gyfer Gymru.
o Nodi ardaloedd sy'n brin o goed a mannau gwyrdd o ansawdd da yn dilyn yr egwyddor 'Coeden Iawn / Lle Iawn' a 'Gwneud Dim Niwed'.
o Creu mynediad agored i safleoedd, gydag ymwelwyr yn cael eu haddysgu ar fanteision Perllannau.
o Lansio 'Rhwydwaith Perllannau Cymunedol' newydd, gan wreiddio rhwydweithio cydradd drwy weithio gyda rhwydweithiau eraill sy'n bodoli.
o Gwella sgiliau perllannau (plannu, cynnal a chadw a phrosesu) drwy hyfforddiant a sesiynau gweithdy.
o Cefnogi datblygiad cynnyrch Cymreig newydd sy'n dod o ffrwythau (lledrau, byrbrydau sych, cordialau).
o Treialu, monitro a gwerthuso buddion economaidd perllannau cymunedol.
o Gweithio gyda rhanddeiliaid yn y gadwyn gyflenwi ffrwythau yng Nghymru.
o Gwneud gwaith mapio i sicrhau lledaeniad daearyddol da ar draws Cymru.
o Plannu 1000 o goed ffrwythau a chnau bwytadwy ar draws o leiaf 10 o safleoedd perllan cymunedol.
o Sefydlu nifer fechan o ganolfannau prosesu a storio ar lefel gymunedol i ddatblygu a phrofi 2 x gynnyrch Cymreig yn defnyddio ffrwythau.
o Cynhyrchu 3 x astudiaeth achos ac 1 x pecyn cymorth.
o Ymgysylltu â 3 x daliad fferm ffurfiol a 7 tirfeddiannwr arall.
o Cefnogi 2 x swydd FTE gan y safleoedd sy'n gweithredu'r cyfleusterau storio a phrosesu.
AMLINELLIAD O'R BRIFF:
Gwaith i'w gyflawni: Darparu cyfarpar wedi'i logi hirdymor i Safleoedd Perllannau
Yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Drafodaeth gyda 6 x o safleoedd penodedig ynghylch eu hanghenion o ran cyfarpar
- Darparu cyfarpar i safleoedd penodedig: suddwyr, sgratyddion/melinau, gweisg, pasteureiddwyr, citiau poteli (yn cynnwys labelu, poteli ac ati), dadhydradyddion, citiau gwneud jam ac ati.
- Darparu cytundebau llogi gyda safleoedd, i gynnwys gwaith cynnal a chadw'r cyfarpar gan y safleoedd tra'i fod yn y lleoliad.
Noder: Bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar i'r llogi prydles weithio ohono.
- Goruchwylio dosbarthiad, gosod, defnydd cychwynnol a chywiro diffygion yr offer a ddarparwyd wedi hynny.
- Cadw'r holl gofnodion ariannol sy'n berthnasol i'r cyfarpar:
o Dyddiad prynu
o Disgrifiad o'r cyfarpar
o Pris a dalwyd (yn cynnwys TAW net adferadwy)
o Rhifau Cyfresol / Adnabod
o Lleoliad y cyfarpar
o Unrhyw ddyddiad gwaredu
o Unrhyw werthiant rhydd o TAW
DS - Ni ddylai UNRHYW gyfarpar gael ei waredu, ei drosglwyddo neu ei wastraffu cyn mis Medi 2028 heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (IoA LlC 36.)
Defnyddwyr Yn y tymor byr, y cynhyrchwyr/tyfwyr yn y safleoedd penodol fydd y defnyddwyr. Yn y tymor hwy, gall y cyfarpar gael ei ddefnyddio gan wirfoddolwyr ar y safle neu yn y gymuned ehangach. Dylid cymryd hyn i ystyriaeth wrth drafod gofynion cyfarpar gyda grwpiau penodedig yn y lle cyntaf.
Manylion penodol Mae'r grwpiau wedi'u lleoli'n ddaearyddol ar hyd a lled Cymru. Dylai ymweliadau ddigwydd i'r safleoedd, yn gorfforol neu'n rhithwir, i asesu'r gofod gosod addas i ddefnyddio'r cyfarpar ar ei orau.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=127723 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|