Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen
DYLAI TENDRAU AR GYFER Y GWAITH HWN GYNNWYS TYSTIOLAETH
a. Cymwysterau addas a record sydd wedi’i phrofi o gyflwyno hyfforddiant awtistiaeth o ansawdd uchel a’r gallu i addasu’r hyfforddiant mewn ymateb i anghenion cyfranogwyr.
b. Dangos gwybodaeth ddigonol a phrofiad clinigol diweddar o weithio gydag oedolion awtistig mewn amgylchedd Iechyd Meddwl gan addasu ymyriadau yn briodol.
c. Ymwybyddiaeth o’r Iaith Gymraeg, deddfwriaeth yr Iaith Gymraeg a chyd-destun polisi'r Gymraeg.
d. Y gallu i fod yn hyblyg gyda dyddiadau hyfforddi i ddiwallu anghenion y Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Gofal Cymdeithasol.
e. Pris.
Bydd y broses dendro hon yn cael ei chynnal fel gweithdrefn agored gyda’r cais llwyddiannus yn cael ei asesu ar sail y Tendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd.
Bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail rhaniad ansawdd/ pris 80/20% gan ddefnyddio’r dadansoddiad canlynol:
5a = 30%
5b = 30%
5c = 10%
5d = 10%
5e – 20%
Ond noder y bydd gofyniad ar bob tendrwr i allu cymryd rhan mewn sgwrs yn yr iaith Gymraeg lle y gwneir cais am hynny.
Bydd gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn dau gam (cyfweliad egluro dewisol fydd cam 2 i’w weithredu ar ddisgresiwn CLlLC mewn partneriaeth gyda’r GAI rhanbarthol):
Cam 1: Bydd pob tendr a gyflwynir yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf uchod i wahaniaethu rhwng y safleoedd.
Cam 2: Efallai y bydd cyfweliad egluro dewisol yn cael ei ddefnyddio ar ddisgresiwn CLlLC, i egluro materion neu fanylion ac i sicrhau fod y ceisiadau wedi cael eu deall yn gywir ac nad oes unrhyw gamddehongli wedi digwydd, er mwyn gwahaniaethu yn glir rhwng y safleoedd cywir.
Bydd cam 2 ond yn gymwys ar gyfer uchafswm o chwech o’r ymgeiswyr gyda’r safleoedd uchaf. Bydd yr ymgeiswyr ond yn cael eu gwahodd i gyfweliad egluro os yw hyn yn angenrheidiol.
Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, gofynnir am y math hwn o eglurhad ar ffurf ysgrifenedig yn gyntaf, yn unol â rheolau gweithdrefn gaffael CLlLC.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer cyfweliad, os yn ofynnol, ar 28ain Chwefror 2018, yn y Ty Llywodraeth Leol, Caerdydd CF10 4LG.
|