Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Amcanion y darn hwn o waith yw:
• darparu gwefan gwbl ddwyieithog yn lle www.ASDinfoWales.co.uk gyda throsglwyddiad llyfn o’r safle cyfredol, gan gynnwys nodweddion sydd yr un fath â’r rhai cyfredol, yn ogystal â rhai newydd o bosib;
• lletya’r wefan mewn amgylchedd ddiogel gydag ategiad (back up) , gan fodloni holl ofynion deddfwriaethol diogelu data a diogelwch seiber.
• cynnal a datblygu’r wefan ymhellach yn unol â gofynion y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.
Rydym yn chwilio am dendrau i ddarparu yn erbyn cytundeb tymor penodol o 5 – 10 mlynedd (posib adolygu hyn) gan ddefnyddio proses ddeialog gystadleuol gyda phwynt penodol ar gyfer adolygu’r contract (Ebrill 2021, pan fydd cyllid cyfredol LlC yn dod i ben, a bob dwy flynedd o’r dyddiad hwn).
Rhaid i wefan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol barhau i gynnig y cynnwys a’r ymarferoldeb cyfredol fel sydd ar www.ASDinfoWales.co.uk
Rydym yn disgwyl i’r holl gynnwys data cyfredol gael ei symud i safle’r cyflenwr newydd.
Byddem yn croesawu cadw steil a dull arddangos (edrychiad a theimlad) cyfredol yr holl gynnwys, ond byddem hefyd yn croesawu opsiynau ar gyfer gwella hygyrchedd, ac ail-ddylunio’r wefan.
Bydd yr holl gynnwys yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn cael ei reoli gan fotwm iaith fydd yn caniatáu ymwelwyr i aros ar y dudalen We yn eu dewis o iaith.
Sicrhau bod unrhyw system yn cydymffurfio â holl ddeddfau diogelu data a diogelwch seiber bob amser.
Rhaid i wefan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol barhau i gynnig y cynnwys a’r ymarferoldeb cyfredol fel y nodir ar www.ASDinfoWales.co.uk, sy’n cynnwys:
5.1 Cynlluniau Ardystio – rhan allweddol o’r safle yw nifer o gynlluniau ardystio ‘ymwybyddiaeth o awtistiaeth’ Mae’r ardystiadau wedi eu hanelu at weithwyr mewn nifer o sectorau, gan gynnwys Gofal Iechyd, Addysg, Gwasanaethau Hamdden a Thai. Mae pob cynllun â thystysgrif arbennig ar gyfer y sector honno, a ddyfernir os ceir llwyddiant o 100% yn y cwestiynau. Mae pob cynllun yn defnyddio ffeil XML i storio’r cwestiynau a’r atebion, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cymwysiadau Dysgu gydag Awtistiaeth (Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd) – Mae’r system yn gadael i ysgolion gofrestru er mwyn dangos eu bod yn ymwybodol o awtistiaeth, maent yn cwblhau ffurflen gais ar-lein, sydd wedyn yn cael ei phrosesu â llaw gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Maent yn nodi eu bod yn derbyn datganiadau allweddol, ac yna yn cael eu hychwanegu at restr gweithredol o ysgolion sydd wedi nodi eu dymuniad i fod yn ymwybodol o awtistiaeth.
Blynyddoedd Cynnar - www.ASDinfoWales.co.uk/whole-setting-award
Ysgolion Cynradd - www.ASDinfoWales.co.uk/asd-aware-schools
Ysgolion Uwchradd - www.ASDinfoWales.co.uk/secondary-school-certification
5.2 Addewid Archarwyr Awtistiaeth – gall plant ‘wneud cais’ i fod yn archarwr awtistiaeth, drwy ateb rhai cwestiynau a chyflwyno’r ffurflen. Wrth ei chyflwyno, caiff tystysgrif PDF ei chreu, sydd wedi ei phersonoli gyda’u henw.
www.ASDinfoWales.co.uk/superhero
Elfen arall yw fersiwn PDF ryngweithiol o'r llyfr Archarwyr Awtistiaeth
http://preview.gtdab.com/00000851/00019014/00093649/.
5.3 Lluniwr Proffil (oedolyn/person ifanc /plentyn) – Gall defnyddwyr adeiladu eu proffil drwy ddewis eu anawsterau, yr hyn maent yn ei hoffi, ddim yn ei hoffi, ac ati. Gall gofalwr hefyd gychwyn y broses hon, gyda chyfrif ar y safle i ddarparu trosolwg o anghenion plentyn. Ar y diwedd, mae’r system yn cynhyrchu dogfen Word gyda’i holl atebion. Mae’r ffeil wedyn ar gael i’w lawrlwytho a’i hargraffu. Ardal ddiogel, angen mewngofnodi.
Oedolion - www.ASDinfoWales.co.uk/adult-profile
Pobl ifanc - www.ASDinfoWales.co.uk/pupil-profile
Plant - www.ASDinfoWales.co.uk/child-profile
5.4 Cardiau Lluniau – Galluogi creu cynllunwyr lluniau unigol (cardiau fflach) y gellir eu rhoi fel allbwn ar ddogfen Word a’u hargraffu. Bas data o gardiau fflach y gellir ei chwilio, gellir eu llusgo / gollwng er mwyn trefnu dogfen wrth i’r rhaglen gyfrifiadurol redeg. Allforio allbwn fel dogfen PDF. Javascript, Jquery, JqueryUI sy’n darparu modd i’r cleient gyfathrebu. Ardal ddiogel, angen mewngofnodi.
www.ASDinfoWales.co.uk/picture-cards
5.5 Geirfa Idiomau – Geirfa gyda miloedd o idiomau, brawddegau a geiriau, yn ogystal â diffiniadau ohonynt. Geirfa y gellir ei chwilio, sy’n ddwyieithog.
www.ASDinfoWales.co.uk/idioms-glossary
5.6 Dull Pennu Nodau – Ysgrifennwyd gyda JavaScript, atebion yn cael eu harbed gyda PHP yng nghefn MySQL. Ardal ddiogel, angen mewngofnodi. Cymorth i ddefnyddiwr osod a rheoli nifer o nodau ar gyfer eu bywyd, mewn meysydd fel tai, gweithgareddau hamdden, cyflogaeth, arian, a lles. Mae coeden lywio yn symleiddio’r broses o reoli eu nodau. Gall allbynnau gael eu hallforio at ddefnydd all-lein ar ffurf dogfen Word gyda’u holl nodau. Ardal ddiogel, angen mewngofnodi.
• www.ASDinfoWales.co.uk/goal-setting-tool
5.7 Geiriadur Medrau Meistr – Bas Data sy’n caniatáu’r defnyddiwr i chwilio am ystyr brawddegau sy’n gyffredin mewn iaith drosiadol. Tebyg i ymarferoldeb yr Eirfa Idiomau. www.ASDinfoWales.co.uk/master-skills-dictionary
5.8 Rhestr Medrau Personol - Galluogi defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi i gynhyrchu rhestr o sgiliau personol fydd o gymorth wrth chwilio am swyddi. Caiff dogfen Word ei chreu sy’n cynnwys atebion y defnyddiwr. Cysylltu gyda’r Lluniwr Proffiliau. Ardal ddiogel, angen mewngofnodi.
www.ASDinfoWales.co.uk/personal-skills-builder
5.9 Lluniwr CV – Mae’r offeryn hwn yn hwyluso’r broses o greu CV ar-lein, gydag adrannau gwahanol ar gyfer Proffil a Sgiliau, Cyflogaeth a Phrofiad, Hyfforddiant ac Addysg, Gwybodaeth, Canolwyr. Mae’r sgiliau yn cael eu llwytho’n awtomatig o’r atebion a roir yn y Lluniwr Sgiliau. Gellir cynhyrchu a lawrlwytho ffeil Word. Ardal ddiogel, angen mewngofnodi.
www.ASDinfoWales.co.uk/cv-builder
5.10 Pecyn Chwilio am Waith – Bwriad adran hon y wefan yw ceisio helpu unigolion wrth iddynt chwilio am waith. Mae’r adran mewn sawl cam, a gall y defnyddiwr arbed eu cynnydd ar unrhyw gam. Yn gyntaf mae’r defnyddiwr yn adeiladu rhestr o’r hyn maent yn eu hoffi / ddim yn eu hoffi o ran amodau gweithio, gan ddewis o restr. Yna maent yn nodi eu dull teithio ac yn gosod cod post ac ardal y byddent yn hapus i weithio oddi mewn iddi. Mae adrannau eraill yn cynnwys yr hyn maent yn eu hoffi, diffiniad o’u sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad, yn ogystal â chamau gyda chyfeiriadau at wahanol fathau o wybodaeth gefnogol.
www.ASDinfoWales.co.uk/employment-workbook
5.11 Tystysgrif Cadarnhaol ynghylch Gweithio gydag Awtistiaeth – System sy’n gadael i fusnesau/sefydliadau gofrestru i fod yn ‘Gadarnhaol ynghylch gweithio gydag Awtistiaeth’. Maent yn nodi eu bod yn derbyn datganiadau allweddol, yna yn cael eu hychwanegu at restr weithredol o fusnesau a restrir fesul awdurdod sydd wedi nodi eu bod yn ‘Gadarnhaol ynghylch Gweithio gydag Awtistiaeth’, ac mae’r system hefyd yn cynhyrchu tystysgrif PDF iddynt.
www.ASDinfoWales.co.uk/home.php?page_id=8801 & www.ASDdinfoWales.co.uk/company-list
5.12 Gweithio gydag Awtistiaeth Ap Symudol - Wedi'i ysgrifennu yn Apache Flex & MXML, er ei fod bellach wedi dyddio, a bydd angen ei ddiweddaru. Yn caniatáu i'r defnyddiwr osod ei sgiliau a'i dewisiadau gorau/ gwaethaf o ran amgylchedd mewn lleoliadau gwaith gwanhaol. Gellir gosod swyddi ar y system trwy ddiffinio gofynion sylfaenol y rôl. Gellir arbed swyddi a mynd yn ôl atynt yn ddiweddarach. Mae'r Ap yn allbynnu asesiad rhifiadol ar ba mor addas yw'r unigolyn ar gyfer y swydd honno. Mae'r Ap yn defnyddio gwybodaeth ac ymatebion o'r wefan, felly mae angen cyfrif defnyddiwr gweithredol i'w ddefnyddio.
5.13 System Rheoli Cynnwys Cynlluniwr ASD ac Ap Symudol – Dyma system rheoli cynnwys ar wahân sy’n caniatáu i amryw o ddefnyddwyr sydd wedi mewngofnodi o amrywiol safleoedd daearyddol allu rheoli eu bas data eu hunain o Ddigwyddiadau a Gweithgareddau. Mae’r system wedyn yn cysoni’r gweithgareddau hyn ag Ap Symudol y defnyddiwr hwnnw.
• www.ASDinfoWales.co.uk/asdplanner
(D.S.: Ar gyfer pob Ap efallai y bydd yn bosibl defnyddio'r wefan yn uniongyrchol ar borwr ffon symudol ac felly negyddu'r gofyniad am Ap symudol. Os gall darpar werthwyr sicrhau y gellir defnyddio gweithrediad POB nodwedd gwefan yn llawn trwy ddetholiad o borwyr symudol safonol (IOS, Android ect.) dylid datblygu hyn yn yr ymateb.)
5.14 Fforymau Diogel – gwybodaeth a dogfennau y gellir eu rhannu, mae defnyddwyr yn mewngofnodi ac yn derbyn negeseuon e-bost yn eu hysbysu ddwywaith y dydd. O fewn ardal ddiogel y safle, gall defnyddwyr gweinyddol breiniol danysgrifio i bynciau o fewn amrywiol Fforymau. Pan fydd diweddariad yn cael ei wneud i un neu fwy o’r pynciau Fforwm hynny, mae’r system yn cynhyrchu e-bost wedi ei frandio gan ASDinfo, ac yn ei anfon at yr holl ddefnyddwyr sydd wedi tanysgrifio i’r Fforwm/ Fforymau sydd wedi ei/eu newid. Mae sgript gweinyddwr yn gwirio am ddiweddariadau i’r Fforymau ddwywaith y dydd, drwy dasg cron, ac yna yn anfon e-bost at yr holl ddefnyddwyr perthnasol, i roi gwybod iddynt am y diweddariad
6.1 Yr holl gynnwys i’w letya gan y darparwr
6.2 Cytundeb Lefel Gwasanaeth i’w gytuno o safbwynt amserlenni a datrys galwadau cymorth
6.3 Staff cymorth gan y darparwr i fod ar gael yn ystod oriau swyddfa (9-5pm Dydd Llun – dydd Gwener)
6.4 Mesurau diogelu yn eu lle er mwyn datrys methiannau’r safle y tu allan i oriau swyddfa.
6.5 Rhaid i’r holl drefniadau lletya gydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol storio data
6.6 Bydd angen i’r darparwyr arwyddo Cytundeb Prosesu Data CLlLC o safbwynt y gwasanaethau hyn
6.7 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) sy’n berthen ar y cynnwys a hawlfraint y cynnwys sydd ar y parth gwe canlynol:
www.ASDinfoWales.co.uk
Nodwch bod CLlLC yn ystyried prynu parthau newydd e.e. ASDinfo.cymru ac ASDinfo.wales (a’u un fath yn y Gymraeg) a byddent yn disgwyl i’r safle newydd “gyfeirio” at y parthau newydd (yr URL sy’n derbyn yn anfon ymlaen oddi yno).
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=97947 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|