Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae'r Cleient yn chwilio am gyflenwyr â’r gallu i gyflawni'r gofynion gwasanaeth a amlinellir yn nisgrifiad yr Hysbysiad Tybiannol i ddatblygu ymyrraeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu cyfrwng Cymraeg wedi'i thargedu.
Gallwch fynegi diddordeb mewn gwneud cais am y contract hwn, ar yr amod eich bod yn gallu bodloni'r meini prawf a amlinellir yn yr hysbysiad hwn, drwy ymateb i'r hysbysiad ar GwerthwchiGymru erbyn 5pm ddydd Llun 2 Medi 2024.
Nod cynllun cyflawni 'Siarad gyda Fi' Llywodraeth Cymru yw codi ymwybyddiaeth pobl o bwysigrwydd datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu. Rydym am sicrhau bod plant yn cael y cymorth cywir yn gyflym, ni waeth ble maent yn byw yng Nghymru.
Yn dilyn cyhoeddi Adolygiad o ymyriadau Cymru, rydym yn chwilio am gyflenwr sydd ag arbenigedd mewn lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar i ddarparu'r canlynol:
• Ymyrraeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu wedi’i thargedu, yn seiliedig ar dystiolaeth, sy'n addas ar gyfer plant hyd at 5 oed, yn y Gymraeg ac wedi’i nodi mewn llawlyfr.
• Rhaid darparu'r holl ddeunyddiau, gan gynnwys offer adnabod, deunyddiau hyfforddi, a mesurau canlyniadau, yn Gymraeg. Rhaid i fersiynau Cymraeg fod yn gyfwerth â'r deunyddiau Saesneg, os yn berthnasol e.e. os yw'r fersiwn Saesneg yn odli, rhaid i'r fersiwn Gymraeg odli.
• Rhaid darparu'r pecyn cyflawn o fewn y gyllideb a neilltuwyd – nid oes bwriad neilltuo cyllid ychwanegol i'r gwaith hwn y tu hwnt i'r prosiect presennol.
• Ni fydd unrhyw sicrwydd o brynu'r deunyddiau yn dilyn y prosiect hwn – nod y darn hwn o waith yw datblygu a threialu'r ymyrraeth arfaethedig yn Gymraeg, nid ei darparu i ddefnyddwyr terfynol.
• Gallai’r defnyddwyr terfynol gynnwys lleoliadau gofal plant, ysgolion a sefydliadau neu ymarferwyr eraill sy'n gweithio gyda phlant hyd at 5 oed. Felly, mae'n rhaid i'r ymyrraeth gael ei chynllunio i gael ei darparu gan y grwpiau hyn, ac nid gan weithwyr proffesiynol arbenigol fel Therapyddion Iaith a Lleferydd yn unig.
• Rhaid i'r cynnyrch fod yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol amlwg, gyda thystiolaeth Lefel 1 (o leiaf 1 hap-dreial dan reolaeth) - gweler adroddiad Adolygiad o ymyriadau Cymru am fanylion pellach.
• Rhaid i Therapydd Iaith a Lleferydd profiadol, sydd wedi'i gofrestru gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a threialu’r ymyrraeth, gan gynnwys sicrhau ansawdd y fersiwn Gymraeg.
• Os yw'r cynnyrch i gael ei ddatblygu o ymyrraeth Saesneg sy'n bodoli eisoes, rhaid dilyn canllawiau ADAPT (Moore et al, 2021). Gweler adroddiad Adolygiad o ymyriadau Cymru am fanylion pellach.
• Os nad oes sail dystiolaeth yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer yr ymyrraeth cyfrwng Cymraeg, rhaid i'r cynnig prosiect gynnwys cynllun peilot i ddarparu tystiolaeth gychwynnol o effeithiolrwydd. Rhaid cynnwys hyn o fewn y gyllideb a neilltuwyd.
• Y gyllideb a neilltuwyd yw uchafswm o GBP70,000 heb gynnwys TAW (Amcangyfrif o werth y contract: GBP65,000 i 70,000 heb gynnwys TAW) ac mae'r prosiect i'w gyflawni erbyn mis Mawrth 2025.
Gellir dod o hyd i adroddiad Adolygiad o ymyriadau Cymru (WIRe) trwy'r ddolen ganlynol - Cefnogi Datblygiad Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn y Blynyddoedd Cynnar | LLYW.CYMRU
Moore, G., Campbell, M., Copeland, L., Craig, P., Movsisyan, A., Hoddinott, P., ... and Evans, R. (2021) Adapting interventions to new contexts—the ADAPT guidance. BMJ, 374
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=143988 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |