Gwybodaeth Ychwanegol
Community safety covers a wide range of areas from road safety and fly tipping to arson and homicide. Whilst no aspect of community safety can be undertaken in isolation, the Network has agreed ten specific themes as key priority areas for action:
• Anti-social behaviour and disorder
• Crime and crime prevention
• Equalities, inclusion and cohesion
• Modern slavery and exploitation
• Offending and justice
• Public safety
• Safeguarding and early intervention
• Serious violence and organised crime
• Terrorism and extremism
• Violence against women, domestic abuse and sexual violence (VAWDASV).
For more information on these themes please see the Wales Safer Communities Network website: https://safercommunities.wales/all-topics/. Some of these areas already have statutory or required training including, safeguarding, VAWDASV and Prevent.
Mae diogelwch cymunedol yn cynnwys ystod eang o feysydd gwahanol, o ddiogelwch y ffordd a thipio anghyfreithlon i gynnau tân a lladdiad. Er na ellir ymgymryd ag unrhyw elfen o ddiogelwch cymunedol yn unigol, mae’r Rhwydwaith wedi cytuno ar ddeg thema benodol fel meysydd blaenoriaeth allweddol i’w gweithredu:
• Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anrhefn
• Trosedd ac atal troseddu
• Cydraddoldeb, cynhwysiant a chydlyniant
• Caethwasiaeth fodern a cham-fanteisio
• Troseddau a chyfiawnder
• Diogelwch y cyhoedd
• Diogelu ac ymyrraeth gynnar
• Trais difrifol a throseddau trefnedig
• Terfysgaeth ac eithafiaeth
• Trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Am fwy o wybodaeth am y themâu hyn ewch i wefan Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru: https://cymunedaumwydiogel.cymru/pob-pwnc/. Mae gan rai o’r meysydd hyn hyfforddiant statudol ac angenrheidiol yn barod yn cynnwys diogelu, VAWDASV ac Atal.
(WA Ref:123831)
|