Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Disgrifiad o'r nwyddau a'r gwasanaethau angenrheidiol
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio i adolygu eu defnydd o’r adeiladau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Ninbych. Mae hyn gyda’r bwriad o greu cyfleoedd i integreiddio a chydleoli’r gwasanaethau ymhellach. Bydd yr Achos Busnes Amlinellol hwn yn ceisio darparu eiddo sy’n addas i’r diben ac yn hygyrch, gyda digon o le ar gyfer darpariaeth bresennol ac ar gyfer y dyfodol, mewn lleoliad cyfleus ac yn cwrdd ag anghenion bobl leol ac yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth. Mae gwasanaethau yn cael eu darparu ar hyn o bryd o sawl lleoliad yn yr ardal gyda chyfraddau amrywiol o gydweithio ac integreiddio. Mae’r cynnig yn cael ei ddylanwadu gan ystod eang o ffactorau gan gynnwys yr ystâd bresennol sydd mewn cyflwr gwael, gwella darpariaeth gwasanaeth, dod â gwasanaethau yn agosach at y gymuned a’r angen i oresgyn cyfyngiadau fel mynediad, gofod a llefydd parcio.
Mae’r rhaglen yn edrych ar atebion ar gyfer gwell llety sy’n hwyluso ac yn cefnogi cyd-leoli ac integreiddio sawl gwasanaeth gan gynnwys:
- Clinigau Cleifion Allanol - Gwasanaethau Gofal Sylfaenol - Tîm Adnoddau Cymunedol
- Gwasanaethau Adsefydlu a Therapïau - Clinigau Lleol - Gwasanaethau Awdurdodau Lleol
- Darpariaeth gofal EMI preswyl, gofal canolradd a darpariaeth gofal preswyl
- Camu i fyny/Camu i lawr
Mae’r Achos Amlinellol Strategol wedi cael ei gwblhau yn barod ac wedi bod trwy’r broses lywodraethu briodol. Rydym rŵan yn edrych i symud ymlaen gyda’r Achos Busnes Amlinellol ac yn mynd i dendr hwyrach ymlaen yn y flwyddyn. Fodd bynnag, er mwyn gwneud cais am y cyllid priodol gan Lywodraeth Cymru rydym angen rhai costau dangosol.
Felly, hoffem i chi ddarparu costau dangosol ar gyfer y rhaglen Achos Busnes Amlinellol llawn erbyn 31/05/24. Dylai gynnwys y wybodaeth ganlynol ac yn seiliedig ar gost rhaglen o £50M (yn cynnwys TAW). Gofynnwn i chi anfon y costau dangosol hyn ar e-bost at project.management@denbighshire.gov.uk
Achos Busnes Amlinellol
Dylunio a Rheoli Prosiectau
Dylunio i RIBA 2
Dylunio i RIBA 3
Nodwch os yw’r dyfynbrisiau’n gynhwysol o TAW. |