Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen
Rheolir y contract ymgynghoriaeth o ddydd i ddydd gan Neville Rookes, Swyddog Polisi. Fodd bynnag, disgwylir i’r gefnogaeth ymgynghoriaeth weithio fel rhan o dim, gan sicrhau fod y gweithgareddau yn plethu gydag ac yn Cefnogi Gwaith RhCPA arall a wneir o fewn CLlLC. I’r perwyl hwn, disgwylir i gynigwyr ymrwymo i drafodaeth aml ac effeithiol gyda swyddogion CLlLC priodol trwy gydol y cyfnod.
Dylai cynigion cryno gan ddarpar ymgynghorwyr (dim mwy na pum ochr A4 ac atodiadau) gael eu gwneud yn y fformat canlynol, a chynnwys dyfynbris wedi’i eitemeiddio. Nid oes dogfen dendr benodol i’w chwblhau:
manylion cyswllt llawn yr ymgeisydd.
manylion cymwysterau’r ymgynghorydd neu’r ymgynghoriaeth a’r unigolyn/unigolion a fydd yn rhan o’r prosiect, sy’n benodol yn nodi’r gweithwyr allweddol.
manylion profiad perthnasol.
eglurhad o beth y gallwch ei gynnig mewn ymateb i’r ‘pwrpas ac amcanion’ a nodir yn adran B uchod.
syniadau cychwynnol ar y mathau o ddeunyddiau y credwch a allai fod o ddefnydd i awdurdodau lleol.
manylion trefniadau ffioedd posib – er enghraifft:
§ dadansoddiad cost dangosol yn seiliedig ar gynnal swyddogaeth gefnogi llwyr trwy gydol y cyfnod hyd at Fawrth 2021, neu
§ cyfraddau fesul awr a fyddai’n berthnasol (ar gyfer unigolion a enwir) i wneud gwahanol fathau o waith 'yn ôl y galw’ – ar gyfer ymchwil ac ysgrifennu adroddiadau – a gyda manylion unrhyw weithgareddau perthnasol eraill a godir amdanynt), neu
§ dadansoddiadau cost dangosol ar gyfer mathau arferol o waith, i gynnwys gweinyddiaeth ac argostau eraill (i baratoi a chynhyrchu adroddiad; ynghyd â manylion unrhyw weithgareddau perthnasol eraill a godir amdanynt – e.e. teithio a chynhaliaeth)
rhestr o gleientiaid awdurdod lleol a sector cyhoeddus eraill.
tri chanolwr, ble mae o leiaf un yn awdurdod lleol ac un arall mewn man arall yn y sector cyhoeddus.
. Cynigion a dyfynbrisiau i’w cyflwyno trwy wahoddiad yn unig.
. Dylai cynigwyr roi gwybod i CLlLC am eu bwriad i gyflwyno erbyn 4.30p.m ar 30/04/2021 fan bellaf. Dylid rhoi gwybod am y bwriad i gyflwyno cynnig drwy e-bost at neville.rookes@wlga.gov.uk.
. Cynigion a dyfynbrisiau i'w cyflwyno i CLlLC at neville.rookes@wlga.gov.uk erbyn 4.30 p.m. ar 17/05/2021 fan bellaf.
. Oherwydd amgylchiadau a chyfyngiadau presennol ni ddylid cyflwyno unrhyw gynigion trwy’r post.
. Mae CLlLC yn bwriadu dewis ymgynghorwyr yn seiliedig ar y cynigion a’r dyfynbrisiau a gyflwynir, ac os oes angen, bydd cyfweliad gydag ymgeiswyr ar y rhestr fer. Gwneir penderfyniad ar gyfuniad o:
uniondeb ac arloesedd y dull arfaethedig a chynllun y prosiect
profiad a hanes yr ymgeisydd
argaeledd a gallu’r ymgeisydd o fewn yr amserlen arfaethedig
cost
. Disgwylir i ymgeiswyr ar y rhestr fer fod ar gael ar gyfer cyfweliad (os oes angen) ar Microsoft Teams yn ystod yr wythnos yn cychwyn 24/05/2021.
|