Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Menter Môn Cyf – Egni

Mae Menter Môn Cyf wedi bod yn datblygu ei phortffolio o brosiect ynni am y 10 mlynedd diwethaf ers sicrhau les 45 mlynedd gan Ystâd y Goron ar gyfer Parth Arddangos Ffrwd Llanw Gorllewin Ynys Môn.

Mae Menter Môn Cyf wedi a bydd yn sefydlu is-gwmnïau i gyflawni ei phortffolio Ynni, gan gynnwys Menter Môn Morlais Limited a Menter Môn Hydrogen Limited.

Menter Môn Morlais Cyf

Prosiect ynni llif llanw Menter Môn ydy Morlais. Mae’n rheoli ardal 35Km² o wely’r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn. Mae gan y cynllun y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân carbon isel.

Home | Morlais (morlaisenergy.com)

Prosiect Ymchwil Nodweddu Morol

Mae’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol fydd yn sicrhau gosod tyrbinau ynni llanw fesul cam yn ddiogel ym Mharth Arddangos Morlais.

Menter Môn - Hydrogen Hub (mentermon.com)

Menter Môn Hydrogen Cyf

Mae gan Ynys Môn botensial ynni adnewyddadwy uchel. Fel opsiwn amgen i gysylltu efo’r grid trydan a all fod yn gyfyngedig, gall ynni adnewyddadwy cynradd gael ei ddefnyddio i gynhyrchu hydrogen trwy electrolysis. Felly gall yr ‘hydrogen gwyrdd’ yma ryddhau potensial llawn ynni adnewyddadwy. Yn gynyddol mae mwy yn adnabod rôl unigryw hydrogen yn y trosglwyddiad tuag at ddatgarboneiddio ar draws pob sector; ac mewn lleihau llygredd aer. Gall hyn arwain at greu miloedd o swyddi ar draws Cymru, a nifer o’r rheini ar Ynys Môn.

Menter Môn - Marine Characterisation Research Project (mentermon.com)

Tudalennau prosiect cysylltiedig: Prosiect - Menter Môn - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)

Prosiect - Menter Môn - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)


Dim cofnodion wedi'u canfod

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.