Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Pentre Awel

Mae Pentre Awel yn ddatblygiad ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ a fydd yn cael ei leoli ar draws 83 erw o dir yn Ne Llanelli. Hwn fydd y datblygiad cyntaf o'i fath yng Nghymru, gan greu ecosystem unigryw a fydd yn cydleoli busnes, ymchwil, y byd academaidd, iechyd a hamdden o fewn seilwaith nodedig.

Mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau gan gynnwys Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd. Mae Pentre Awel yn brosiect gwerth miliynau o bunnoedd sy'n cael ei ariannu gan Cyngor Sir Gaerfurddin, Fargen Ddinesig Bae Abertawe a cyllid sefydliadol.

Yn ogystal â gwella iechyd a llesiant, bydd y prosiect yn creu bron 2,000 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi/prentisiaethau, a disgwylir iddo roi hwb o £467 miliwn i'r economi leol dros y 15 mlynedd nesaf.

Bydd y prosiect dan arweiniad y Cyngor yn cael ei ddatblygu fesul cam ar draws pedwar parth. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penodi Bouygues UK i ddylunio ac adeiladu Parth Un o ddatblygiad mawreddog Pentre Awel. 

Bydd Parth Un yn elwa ar fuddsoddiad o tua £70miliwn o'r sector cyhoeddus a bydd yn cynnwys:

 • canolfan hamdden a fydd yn cynnwys: pwll nofio wyth lôn 25 metr a phwll dysgwyr sy'n cynnig nofio lôn traddodiadol a dosbarthiadau dysgu nofio, Pwll hydrotherapi, Campfa a stiwdios dawnsio, chwilbedlo ac amlbwrpas
 • cyfleusterau addysg i darparu sbectrwm eang o raglenni addysg a hyfforddiant, o Addysg Bellach ac Addysg Uwch, i Barod am Waith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
 • Canolfan Darpariaeth Glinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaethol mewn lleoliad cymunedol, a bydd Chanolfan 
Ymchwil Glinigol gyfagos yn canolbwyntio ar ymchwil, arloesi a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth

Parthau eraill yn cynnwys:

 • llety byw â chymorth (Parth 2, Parth 3)
 • Datblygiad tai cymdeithasol a fforddiadwy (Parth 2)
 • Gofod ehangu busnes (Parth 3)
 • Datblygiad tai (Parth 4)
 • Gwesty (Parth 4)

Adnoddau ychwanegol: Adnoddau Tudalen y Prosiect.

Mae nifer o gyfleoedd i fusnesau a chyflenwyr lleol weithio ar y datblygiad Barth 1: Pentre Awel: Cyfleoedd is-osod.


Dim cofnodion wedi'u canfod

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.