SWWRCF2020 yw trydydd iteriad Fframwaith Contractwyr
Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWRCF) ac mae'n drefniant cydweithredol a
arweinir ac a reolir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran Awdurdodau Lleol
rhanbarthol De-orllewin Cymru (Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Castell-nedd
Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe). Mae gan y Fframwaith
gontractwyr lleol a chenedlaethol profiadol iawn a chymwys, ac mae'n rhoi
llwyfan caffael cystadleuol ac ateb i waith adeiladu'r sector cyhoeddus o £0+.
Daeth SWWRCF 2020 i rym
ar 1 Chwefror 2020 a bydd ar waith am 4 blynedd tan 31 Ionawr 2024. Sefydlwyd y
Fframwaith yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 at ddibenion
darparu gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag Adeiladu.
Mae chwech o brif nodau ac amcanion gan strategaeth SWWRCF 2020. Dyma'r materion allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth:
- Hyrwyddo cynhwysiad a chyfraniad BBaCh fel Cyflenwyr Fframwaith, gyda phwyslais ar ddarpariaeth cyflenwad lleol
- Cynyddu a chynnal Safonau Gofynnol i gefnogi Twf Contractwyr ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru
- Cefnogi arferion gorau a gwelliant parhaus ymhlith cyflogwyr, contractwyr a chyflenwyr yn Rhanbarth De-orllewin Cymru
- Gwelliant sicr i'r amgylchedd adeiliedig drwy ddarparu'r gwerth gorau
- Hyrwyddo'r defnydd o ddulliau adeiladu modern a thechnegau adeiladu arloesol
- Sicrhau gwerth am arian i'r cleient a'r contractwyr
Gweledigaeth y Fframwaith SWWRCF yw datblygu trefniadau contractiol cydweithredol buddiol i'r naill ochr a'r llall gyda chontractwyr y sector preifat. Wrth wneud hynny, rydym yn ymdrechu i integreiddio sgiliau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat wrth gyflawni prosiectau adeiladu, sicrhau ymarferion caffael cystadleuol sy'n cydymffurfio, hyrwyddo gwelliant parhaus a sefydlu'r pethau hyn i gyd.
Mae SWWRCF wedi ymrwymo i sicrhau cymaint â phosibl o Fudd i'r Gymuned ar draws Rhanbarth De-orllewin Cymru ac mae wedi ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) yn y fframwaith a'r dyfarniadau dilynol dan y fframwaith. Bydd hyn yn helpu i gefnogi a meithrin gwerth gorau a gwelliant parhaus ac i gefnogi'r gwaith o gaffael yn gyfrifol mewn modd sydd o fudd i lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar draws y rhanbarth.
Fel rhan o Gymdeithas Genedlaethol y Fframweithiau Adeiladu (NACF), gall SWWRCF helpu i gyfrannu at ddyfodol y strategaeth gaffael genedlaethol ledled y DU, gan rannu arfer gorau gydag aelodau a fframweithiau ehangach y sector cyhoeddus sydd o natur debyg, sydd o fudd i gyflogwyr, contractwyr a'r cyhoedd.
Mae'r fframwaith yn agored i nifer fawr o gyflogwyr ac asiantaethau sector cyhoeddus ar draws y rhanbarthau, y maent i gyd wedi'u rhestru yng nghanllawiau cynhwysfawr y fframwaith SWWRCF.
Dylid cyfeirio pob ymholiad at TSSWWRCF@sirgar.gov.uk
Darganfyddwch fwy yma: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/info/InfoCentre.aspx?ID=19796