Mae Kier Group CCC yn
grŵp adeiladu, gwasanaethau ac eiddo
blaenllaw sy'n arbenigo mewn adeiladu a pheirianneg sifil, gwasanaethau
cymorth, datblygu eiddo masnachol, ariannu strwythuredig eiddo a thai preifat a fforddiadwy.
Mae ein swyddfeydd rhanbarthol yng Nghaerdydd ac Abertawe yn
cynnig gwasanaeth cynhwysfawr adeiladu ledled Cymru, gyda hyblygrwydd ac
arbenigedd i gyflawni prosiectau o holl werthoedd a sectorau gan gynnwys rhaglenni gwaith mân sy’n cael eu darparu drwy fframwaith SCAPE.
Yn dilyn llwyddiant sylweddol ar fframweithiau contractwyr
rhanbarthol De orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru, rydym yn llwyddo i gyflwyno nifer o gynlluniau
proffil uchel yn y rhanbarth.
Mae prosiectau
cyfredol yn cynnwys pencadlys S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, cam 1 o chwarter
arloesi Abertawe newydd gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer Prifysgol Cymru'r
Drindod Dewi Sant ac yr adeilad IMPACT yng Nghampws Gwyddoniaeth ac Arloesi Bae Prifysgol Abertawe.
Rydym yn
gyffrous i fod yn rhan o ddarparu nifer o ysgolion, gan gynnwys ysgol gynradd
Ysgol Carreg Hir yng Nghastell-nedd Port Talbot, Ysgol Gyfun Croesyceiliog ac
Ysgol Gynradd Penygarn, ill dau wedi'u lleoli ym Mwrdeistref Tor-faen, ac Ysgol
Gyfun Treorci yn Rhondda Cynon Taf.
Mae cyflawni’n lleol
ar gyfer y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn golygu ychwanegu gwerth drwy ddarparu cyflogaeth a
gwerth chymdeithasol, a chan fod y rhan fwyaf o wariant ein cleientiaid yn parhau
o fewn y cymunedau lle rydym yn gweithio, byd hyn yn hwb sylweddol i'r economi
leol.
Mae Kier yn gweithredu cadwyn gyflenwi sydd a diwylliant busnes rhagweithiol, agored ac
felly bydd yn cyd-fynd â'n dilwylliant ni. Rydym yn ymdrechu gyda'i gilydd i wella
perfformiad; ac rydym yn gweithio dro ar ôl tro mewn ysbryd o gydweithrediad,
ymddiriedaeth a pharch. Mae'r dull hwn yn gweithio er budd pawb, gan gynnwys y
rhai o ein cleientiaid, drwy effeithlonrwydd gweithredol, gwaith tîm a
chyfathrebu gwell.
Er
mwyn parhau a chryfhau'r fformiwla lwyddiannus uchod yr ydym bob amser yn
edrych i ddiwallu a thrafod cyfleoedd gyda BBaChau newydd a dangos manteision y
gellir ei fforddio i'ch cwmni drwy gofrestru ar gyfer y gadwyn gyflenwi.