23 Ebrill 2025, 14:00 - 15:30
Digwyddiad ar-lein
Cost: Am ddim
Mae Cyngor Sir Powys yn ymroddedig i gefnogi pobl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cartrefi cyn hired â phosibl. I rai pobl efallai y daw’r amser pan fydd angen y budd ychwanegol o fyw mewn cartref gofal preswyl.
- Mae pobl yn byw yn hirach, ac mae disgwyliadau'r cyhoedd yn newid. Yn ogystal, y demograffig a ragwelir ym Mhowys yw galw cynyddol am ofal dementia a nyrsio arbenigol.
- Uchelgais Cyngor Sir Powys yw darparu cartrefi gofal cynaliadwy o ansawdd uchel i drigolion Powys sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
- Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i ddarparu'r math cywir o ofal sy'n galluogi pobl i fyw'r bywydau y maen nhw’n eu dymuno yn agos at eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymunedau.
- Er mwyn cyflawni'r canlyniadau hyn, mae Cyngor Sir Powys yn archwilio datblygu pum cartref ardal a fydd yn cynnig gwasanaeth hyblyg, gan wneud defnydd gwych o dechnoleg mewn amgylchedd a all gynnig y cyfle gorau i bobl gynnal eu hannibyniaeth.
- Mae hon yn weledigaeth hirdymor a fydd yn gofyn am gynllunio gofalus gyda'r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â phobl Powys i helpu i lunio a dylunio'r gwasanaeth.
- Mae'r Cyngor yn cynnal ymarfer ymgysylltu rhagarweiniol cychwynnol a'r farchnad i weld y lefel bresennol o ddiddordeb gan bartneriaid posibl sy'n barod i gydweithio â'r Cyngor.
- Mae'r Cyngor yn ystyried ymgysylltu â phartner(iaid) datblygu hirdymor a/neu ddarparwr(wyr) a fyddai'n rheoli darpariaeth breswyl pobl hŷn ar draws ein cartrefi gofal presennol i ddechrau. Yn ogystal, byddent yn cydweithio â'r Cyngor i ddatblygu 5 cartref gofal cofrestredig deuol newydd ledled y sir.
Disgwylir i'r darparwr a/neu'r datblygwr weithredu'r gwasanaethau hyn ar gyfer gofal Preswyl, Dementia a Nyrsio mewn partneriaeth â'r Cyngor.
- Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor 12 cartref gofal preswyl, ac mae'r contract yn dod i ben ar 31 Mai 2026. Byddwn yn chwilio am y darparwr gofal / datblygwr eiddo newydd i weithredu'r gwasanaeth o 1 Mehefin 2026.
- Mae gan y Cyngor ddiddordeb mewn clywed gan ddarparwyr gofal a datblygwyr eiddo a bydd y digwyddiad yn gyfle i'r cyngor rannu ei gyfeiriad wrth ddarparu llety cartrefi gofal i bobl hŷn.
Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Ymgysylltu Rhagarweiniol â'r Farchnad: Llety Cartrefi Gofal Pobl Hŷn Cyngor Sir Powys - Trawsnewid Gofal ar gyfer Dyfodol Disglair
Cyhoeddwyd gyntaf
16 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
16 Ebrill 2025