Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad uchelgeisiol o gymorth cyflogadwyedd yn ein gwlad, ac mae eich arbenigedd yn hanfodol i'w llwyddiant.
Rydym ni'n cynnal pedwar digwyddiad ymgysylltu rhanbarthol ledled Cymru i gyflawni ein huchelgais fel yr amlinellir yn ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau.
Bydd y digwyddiadau'n dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i’n helpu i greu Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd fwy integredig ac effeithiol.
Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn gyfle i chi:
- Gyfrannu at drafodaethau ar bynciau hanfodol i lywio dyluniad rhaglen newydd gan Lywodraeth Cymru
- Rhannu eich dealltwriaeth a'ch profiad gwerthfawr o fentrau cyfredol
- Helpu i lunio dulliau cyflawni yn y dyfodol
- Rhwydweithio â rhanddeiliaid eraill yn eich rhanbarth
Bydd eich cyfraniad chi’n dylanwadu'n uniongyrchol ar sut rydym ni'n cefnogi pobl gyda'u hanghenion cyflogaeth a sgiliau i gyrraedd y nod a chyflawni eu potensial am flynyddoedd i ddod.
Dyma leoliadau’r digwyddiadau:
- Caerdydd (29 Ebrill)
- Abergele (8 Mai)
- Llandrindod (22 Mai)
- Llanelli (4 Mehefin)
I gael y manylion llawn ac archebu'ch lle, ewch i:
https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/ail-lunio-cymorth-llywodraeth-cymru-ar-gyfer-cyflogadwyedd/
Mae lleoedd yn brin felly cofrestrwch yn gynnar.
Cyhoeddwyd gyntaf
13 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
13 Mawrth 2025