19 Mawrth 2025, 08:30 - 13:00
Parkway Hotel and Spa, Cwmbran, NP44 3UW
Cost: Am ddim
Mae Fforwm Economaidd Strategol Torfaen mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Busnes Cymru yn falch o gyhoeddi ‘Arddangosfa Cadwyn Gyflenwi a Rhwydweithio B2B Torfaen’.
Digwyddiad yw hwn i ddod â phrynwyr a gwerthwyr ynghyd o bob rhan o gymuned fusnes Torfaen, gan ddarparu llwyfan i sicrhau busnes newydd, i leoleiddio cadwyni cyflenwi ac i gefnogi’r economi leol. Mae'r diwrnod yn dechrau gyda rhwydweithio dros roliau brecwast a choffi ac mae'n cynnwys sgyrsiau llawn gwybodaeth ar bynciau’n ymwneud â chaffael y sector cyhoeddus a'r economi gylchol, parth rhwydweithio, yn ogystal ag amrywiaeth o stondinau expo.
Cyfle gwych i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi cymuned fusnes Torfaen!
Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Arddangosfa Cadwyn Gyflenwi a Rhwydweithio BiB Torfaen
Cyhoeddwyd gyntaf
12 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
12 Mawrth 2025