Mae Deddf Caffael 2023 a rheoliadau cysylltiedig Cymru wedi dod i rym. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o drawsnewid caffael cyhoeddus ledled Cymru.
I'ch helpu i lywio'r dirwedd gaffael newydd, mae cyfoeth o adnoddau ar gael nawr:
Caffael Doethach ar LLYW.CYMRU: Ewch i'r tudalennau Caffael Doethach i gael mynediad at ystod eang o adnoddau, gan gynnwys pecyn cymorth i randdeiliaid a gynlluniwyd i'ch helpu i gyfleu'r newidiadau hyn yn effeithiol gyda rhanddeiliaid a chyflenwyr allweddol.
Tudalen We’r Ddeddf Caffael: Mae tudalen bwrpasol y Ddeddf Caffael ar LLYW.CYMRU yn cynnig mynediad i ganllawiau hanfodol – gyda dogfennau manylach i’w cyhoeddi’n fuan.
Fideo Esboniadol: Mae'r fideo hwn yn rhoi trosolwg o'r ddeddfwriaeth newydd a sut mae'n effeithio ar brynwyr a chyflenwyr.
Nodiadau Polisi Caffael Cymru wedi’u Diweddaru (WPPNs): Mae’r dudalen WPPN etifeddol yn parhau i fod ar gael i gyfeirio ati ynghylch caffaeliadau a ddechreuwyd o dan y Rheoliadau blaenorol. Cyfeiriwch at dudalen y WPPN newydd sy'n berthnasol i gaffaeliadau o dan y Ddeddf Caffael ar gyfer arferion a safonau cyfredol.
Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi prynwyr a chyflenwyr wrth iddynt drosglwyddo i'r fframwaith caffael diwygiedig.
Cyhoeddwyd gyntaf
07 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
10 Mawrth 2025