Ym mis Tachwedd 2024, sefydlwyd System Brynu Ddynamig newydd ar gyfer Cefnogaeth Wledig gan Lywodraeth Cymru, i’w defnyddio gan holl adrannau Llywodraeth Cymru a rhai cyrff cyhoeddus eraill.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflenwyr allweddol yn y categori Cefnogaeth Wledig i wneud cais am le ar y System Brynu Ddynamig Cefnogaeth Wledig.
I wneud cais, dilynwch y canllawiau a ddarperir yn hysbysiad GwerthwchiGymru.
Gweld Hysbysiad - GwerthwchiGymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio’r system ar gyfer y gofynion amgylcheddol arfaethedig canlynol dros y tri mis nesaf:
- C201/2024/2025 – Rheoli INNS ar raddfa tirwedd c. £200,000 - £220,000.00
Mae defnyddio’r System Brynu Ddynamig yn darparu nifer o fanteision gan gynnwys platfform parod ar gyfer caffael ymchwil, lleihad yn yr amser caffael ar gyfer y sefydliad sy’n prynu a’r cyflenwr, cyfleoedd i gyflenwyr newydd wneud cais am hyd y System Brynu Ddynamig a gwell deallusrwydd busnes.
Mae System Brynu Ddynamig Cefnogaeth Wledig yn fyw nawr ac yn dod i ben ym mis Hydref 2028. Byddem yn annog eich sefydliad i wneud cais am y system, fel nad ydych yn methu ar y cyfle i ymgeisio am ein contractau.
Os oes gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch â ni ar CefnogaethWledigSBDd@llyw.cymru.
Cyhoeddwyd gyntaf
06 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
06 Chwefror 2025