Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Paratowch ar gyfer 24 Chwefror 2025: Gwybodaeth ac arweiniad i gyflenwyr

Mae cyfraith caffael cyhoeddus yn newid yn dilyn cyflwyno Deddf Caffael 2023 a'r Rheoliadau cysylltiedig newydd y bwriedir iddynt fod yn weithredol ar 24 Chwefror 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
03 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:
03 Chwefror 2025

Cyflwyniad

Mae cyfraith caffael cyhoeddus yn newid yn dilyn cyflwyno Deddf Caffael 2023 a'r Rheoliadau cysylltiedig newydd y bwriedir iddynt fod yn weithredol ar 24 Chwefror 2025. Os ydych yn fusnes sy'n cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i chi wybod am y newidiadau hyn a'n cynlluniau i baratoi rhanddeiliaid i'w rhoi ar waith. 

Llywodraeth y DU

Er mwyn cefnogi parodrwydd ar gyfer y drefn newydd, mae GOV.UK wedi rhyddhau cyfres o adnoddau newydd i gefnogi cyflenwyr sy'n defnyddio'r platfform digidol canolog. Mae hyn yn cynnwys fideos manwl i gyflenwyr ar sut y gall gweinyddwyr gwblhau a diweddaru gwybodaeth am gyflenwyr, ynghyd â chanllaw fer i gyflenwyr ar sut i lywio'r llwyfan digidol canolog.

Yn ddiweddar, maent hefyd wedi cynnal dwy weminar ar gyfer cyflenwyr a phartïon eraill â diddordeb a oedd yn canolbwyntio ar y newidiadau allweddol i gyflenwyr ac sy'n cynnwys arddangosiad byw o'r platfform digidol canolog.

Gallwch weld yr holl recordiadau a fideos cyflenwyr yn: Gwybodaeth ac arweiniad i gyflenwyr - GOV.UK

Canllawiau ychwanegol

Canllaw cyflenwyr GwerthwchiGymru: Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Cysylltiedig: Canllaw byr i gyflenwyr - GwerthwchiGymru

Cyfres o fideos hyfforddi byr 'Gollwng Gwybodaeth': Deddf Caffael 2023 | LLYW.CYMRU

Canllawiau Deddf Caffael 2023: Deddf Caffael 2023 | LLYW.CYMRU

CYD. Adnoddau CYMRU: Diwygio Caffael - Caffael CYD

Deddfwriaeth ar GOV.UK: Procurement Act 2023 


Cyhoeddwyd gyntaf
03 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
03 Chwefror 2025
Paratowch ar gyfer 24 Chwefror 2025: Gwybodaeth ac arweiniad i gyflenwyr

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.