21 Ionawr 2025, 07:30 - 12:30
Ty Penallta (Penallta House), Hengoed, CF82 7PG
Cost: Am ddim
Mae Morgan Sindall yn adeiladu Canolfan Hamdden a Llesiant newydd yng Nghaerffili.
Rydym yn gobeithio cwrdd â Yrfaoedd Busnesau Bach a Chanolig, Microfusnesau, Unig fasnachwyr, Ceiswyr gwaith a Mentrau Cymdeithasol lleol i drafod cyfleoedd tendro yn y dyfodol.
Bydd Canolfan Hamdden a Llesiant newydd Caerffili yn darparu gofod croesawgar a modern sydd wedi’i ddylunio i flaenoriaethu llesiant corfforol a meddyliol. Gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf, bydd yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob oed wella eu hiechyd, ymlacio a chreu cysylltiadau, gan greu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol sy’n gwella ansawdd bywyd a lles y gymuned.
Cymorth Busnes
Bydd Busnes Cymru yn bresennol. Gallant roi cyngor ac arweiniad arbenigol wedi’u hariannu’n llawn i gefnogi pobl yng Nghymru sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnesau.
Cysylltwch â: howard.jacobson@businesswales.org am ragor o wybodaeth.
Cwrdd â’r Prynwr
Rydym yn gobeithio cwrdd â Busnesau Bach a Chanolig, Microfusnesau, Unig fasnachwyr, Ceiswyr gwaith a Mentrau Cymdeithasol lleol i drafod cyfleoedd tendro yn y dyfodol. Digwyddiad “galw-heibio” yw hwn, ac nid oes angen archebu lle. Timau cyn-adeiladu a darparu Morgan Sindall ynghyd â staff allweddol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fydd yno i’ch croesawu.
Cyngor am Yrfaoedd
Gyda chefnogaeth ein Desg Cadwyn Gyflenwi a Llafur (recriwtio),rydym yn dymuno cwrdd â cheiswyr gwaith lleol.
Bydd y digwyddiad yn addas ar gyfer:
- Pobl sy’n awyddus i ddechrau ar eu gyrfa
- Gweithwyr proffesiynol profiadol
- Y rhai sy’n newydd i’r diwydiant
- Pobl sy’n ystyried newid gyrfa.
Does dim angen trefnu apwyntiad.
Cyfeiriad: Tŷ Penallta (Penallta House), Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG Mae lleoedd parcio ar gael am ddim yn y lleoliad.
Cysylltwch â: connor.thurston@morgansindall.com am ragor o wybodaeth.
Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Morgan Sindall - Digwyddiad Canolfan Hamdden a Llesiant Caerffili
Cyhoeddwyd gyntaf
10 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
10 Ionawr 2025