23 Ionawr 2025, 10.30-11.30
24 Ionawr 2025, 11.00-12.00
Cost: Am ddim
Mae caffael cyhoeddus yn newid. Ar 24 Chwefror 2025, bydd y rheolau sy'n siapio sut mae cyrff cyhoeddus yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn newid.
Bydd Deddf Caffael 2023 yn cyflwyno mesurau i wella a symleiddio'r ffordd y mae caffael yn cael ei wneud ac o fudd i ddarpar gyflenwyr o bob maint, yn enwedig busnesau bach, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol.
Os yw'ch busnes yn cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau i sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus neu gyfleustodau – neu'n gobeithio gwneud hynny yn y dyfodol, mae angen i chi wybod am y newidiadau.
Mae'r gweminarau hyn wedi'u hanelu at gyflenwyr ac unrhyw sefydliad allanol arall sydd â diddordeb mewn caffael cyhoeddus. Byddant yn canolbwyntio ar beth yw'r newidiadau allweddol, sut y bydd y llwyfan digidol canolog yn gweithio (yn cynnwys arddangosiad byw), a byddant yn gyfle i chi ofyn cwestiynau am eich paratoadau eich hun ar gyfer mynd yn fyw.
Archebwch nawr: Deddf Caffael 2023: Gweminar ar gyfer cyflenwyr a sefydliadau allanol eraill Tocynnau, Iau, Ionawr 23, 2025 am 10:30 AM | Eventbrite
Cyhoeddwyd gyntaf
06 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
06 Ionawr 2025