Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr Prifysgol Bangor

Dyddiad y digwyddiad: 20 Ionawr 2025, 10:00 - 13:00.

Cyhoeddwyd gyntaf:
06 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:
07 Ionawr 2025

20 Ionawr 2025, 10:00 - 13:00

Bangor University, Neuadd Reichel (Reichel Hall), Bangor, LL57 2TR

Cost: Am ddim

Mae’r digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yn ddigwyddiad galw heibio a fydd yn rhoi cyfle i gyflenwyr drafod contractau posib ym Mhrifysgol Bangor. Dyma gategorïau’r cyfleoedd hyn: 

  • Nwyddau traul a chyfarpar labordy
  • Nwyddau traul ac offer Gwyddorau Iechyd
  • Nwyddau traul a gwasanaethau arlwyo
  • Nwyddau a gwasanaethau glanhau a golchi (llieiniau a golchi dillad, rheoli plâu, gwasanaethau toiledau)
  • Gweithrediadau cyfleusterau (trwsio lifftiau a chynnal a chadw, diogelwch, gwasanaethau rheoli adeiladau, rheoli cyfleusterau caled, gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau cyffredinol, gwasanaethau cynnal a chadw trydanol a mecanyddol, offer tân)
  • Gwasanaethau proffesiynol  
  • Gwasanaethau digidol
  • Marchnata

Fodd bynnag, mae'r digwyddiad yn agored i BOB busnes gan gynnwys busnesau bach a chanolig sy'n dymuno dod draw am sgwrs.

Cynhelir cyfres o sesiynau trwy gydol y bore, fydd yn caniatáu i fusnesau ddysgu am gontractau a chyfleoedd tendro presennol/ar ddod a chael cyngor gwych ar dendro er mwyn nodi cyfleoedd a datblygu eu prosesau cynnig.

Bydd busnesau hefyd yn cael cipolwg ar y cymorth sydd ar gael i fod yn "barod i dendro" am y cyfleoedd hyn yn y dyfodol a ddarperir gan Fusnes Cymru a GwerthwchiGymru a fydd yn cynnal sesiynau 1-2-1 yn ystod y digwyddiad.

Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr Prifysgol Bangor
Cyhoeddwyd gyntaf
06 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
07 Ionawr 2025
Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr Prifysgol Bangor

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.