Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r broses gaffael ar gyfer prosiectau Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Nod yr adolygiad hwn yw cael gwell dealltwriaeth o'r broses gaffael o ben i ben ar gyfer prosiectau GSR: yr hyn sy'n gweithio'n dda, a beth y gellid ei wella, o'r gwahoddiad i'r cam tendro hyd at reoli contractau a chau. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i helpu i wneud gwelliannau mewn cydweithrediad â'n cyflenwyr.
Fel rhan o'r adolygiad hwn, bydd y tîm ymchwil yn casglu gwybodaeth drwy arolwg er mwyn darganfod barn cyflenwyr sydd â phrofiad o dendrau a chontractau GSR.
Dim ond 10 munud y bydd yr arolwg yn ei gymryd a bydd eich ymatebion yn help mawr i lywio materion i'w harchwilio mewn digwyddiadau cyflenwyr yn y dyfodol ar gyfer prosiectau a gomisiynir gan GSR.
Dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i lunio dyfodol caffael GSR o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'r arolwg yn cau am 5yh ar Ddydd Sul 12fed Ionawr.
Gellir gweld yr arolwg isod: Arolwg Cyflenwyr Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru
Cyhoeddwyd gyntaf
16 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
16 Rhagfyr 2024