Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ymgysylltu a Chyfathrebu Caffael - Digwyddiad cwrdd â'r prynwyr

Dyddiad y digwyddiad: 16 Rhagfyr 2024, 11:00 - 12:00.

Cyhoeddwyd gyntaf:
05 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:
05 Rhagfyr 2024

16 Rhagfyr 2024, 11:00 - 12:00

Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Galwn ar Gwmnïau Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda Rhanddeiliaid a Chymunedau yng Nghymru

 Oes gennych chi ddiddordeb mewn tendro i gefnogi cyfranogiad lleol mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, er mwyn darparu buddion i bobl yng Nghymru?

Bydd y caffaeliad hwn yn cwmpasu'r holl gyfathrebiad a phob ymgysylltiad yn ymwneud a'r broses cynllunio sy'n gysylltiedig â Phrosiectau ynni adnewyddadwy, o'r cychwyn cyntaf hyd at gyflwyno'r cais cynllunio.

Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o Drydan Gwyrdd Cymru yng nghamau cynnar iawn datblygiad y prosiect / prosiectau, ac yna cyfleoedd i lywio'r prosiect/au, trwy drefnu a chynnal digwyddiadau ymgynghori anffurfiol a statudol.  Bydd ymgysylltu yn helpu i wneud y gorau o werth y prosiectau hyn ar gyfer yr ardal leol ac i Gymru.

Efallai y bydd angen rhywfaint o gyfathrebu ac ymgysylltu ehangach ledled Cymru yn y cylch gwaith hefyd, lle mae rhyngwyneb rhwng materion a diddordebau lleol a chenedlaethol.

Lot 1 – De-orllewin Cymru

Lot 2 - Gogledd-orllewin Cymru

Lot 3a - Ranbarth Prifddinas Caerdydd  (Cardiff Capital Region)

Lot 3b - Ranbarth Bae Abertawe (Swansea Bay City Region)

Contract / Cytundeb tair blynedd.

Gwerth y contract - £40k-£80k y flwyddyn fesul Lot (Lot 1, 2, 3a); a £60 – 90k y flwyddyn (Lot 3b 2 prosiect).

Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Ymgysylltu a Chyfathrebu Caffael - Digwyddiad cwrdd â'r prynwyr.


Cyhoeddwyd gyntaf
05 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf
05 Rhagfyr 2024
Ymgysylltu a Chyfathrebu Caffael - Digwyddiad cwrdd â'r prynwyr

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.