Dydd Mawrth 26 Tachwedd, 09.30 – 14.30
Carmarthenshire Enterprise Hub
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle gwerthfawr i fusnesau bach ddysgu mwy am y camau ymarferol i’w dilyn er mwyn sicrhau contractau caffael lleol gyda Chyngor Sir Gâr (CSG) a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd y sesiynau’n gyfle i gael gwybodaeth am gyfleoedd caffael ‘llai’ sy’n gallu bod o fudd uniongyrchol i fusnesau bach a lleol sy’n awyddus i ehangu drwy gontractau cyhoeddus, h.y. <£25,000 a ddim wedi’u rhestru ar GwerthwchiGymru.
Mae bob math o gyfleoedd caffael llai ar gael yn y sector cyhoeddus. Er enghraifft: hyfforddiant, gwaith coed, argraffu, dylunio graffigol, nwyddau swyddfa, arlwyo, glanhau, cyflenwi offer, tirlunio, atgyweirio, digwyddiadau, ac ymgysylltu cymunedol (ymysg pethau eraill!).
Mae’r panel yn cynnwys arbenigwyr caffael o CSG a’r Gwasanaeth Tân, felly bydd hwn yn gyfle i ddod i ddeall beth mae prynwyr yn chwilio amdano a sut i gyflwyno eich busnes pan fydd cyfleoedd yn codi. Bydd straeon llwyddiant gan fusnesau bach hefyd yn cynnig gwersi o ran delio â heriau ac ennill tendrau yn y byd go iawn. Bydd amser penodol yn y rhaglen ar gyfer trafodaethau un-i-un gyda’n panelwyr hefyd.
I fusnesau bach sy’n awyddus i ehangu, bydd y digwyddiad hwn yn cynnig arweiniad ymarferol a gwybodaeth hanfodol gan yr arbenigwyr. Peidiwch â cholli’r cyfle i rwydweithio, dysgu a gwella siawns eich busnes o ennill contractau bach yn y sector cyhoeddus!
Archebwch nawr: Winning Public Sector Contracts – Small Business Strategies & Opportunities Tickets, Tue, Nov 26, 2024 at 9:30 AM | Eventbrite
Cyhoeddwyd gyntaf
15 Tachwedd 2024
Diweddarwyd diwethaf
15 Tachwedd 2024