Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ennill contractau Llywodraeth Cymru

Canllawiau ynglŷn â sut i gael contractau Llywodraeth Cymru a thelerau rhoi contractau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
01 Tachwedd 2024
Diweddarwyd diwethaf:
01 Tachwedd 2024

Cyflwyniad

Byddwn yn gwario tua £675 miliwn y flwyddyn yn prynu nwyddau, gwasanaethau, gwaith, TGCh ac offer/gwasanaethau digidol.

Ein nod yw gwario’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian i Gymru. Rydym hefyd yn dymuno symleiddio'r broses gynnig ar gyfer cyflenwyr.

Ein blaenoriaethau caffael

Mae gweithgarwch caffael Llywodraeth Cymru yn ategu ein hamcanion llesiant. Dyma ein blaenoriaethau:

Dylai darpar gyflenwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol hefyd:

Sut rydym yn dyfarnu ein contractau

Rydym yn defnyddio GwerthwchiGymru i hysbysebu ein holl gontractau sy’n werth mwy na £25,000.

Rhaid i gyflenwyr sydd am wneud busnes gyda ni gofrestru ar GwerthwchiGymru.

Ar ôl cofrestru gallwch weld ein hysbysiadau contract cyfredol.

Rydym yn cyhoeddi ein hysbysiadau contract caffael a manylion dyfarnu contractau

eGaffael

Rydym yn defnyddio eDendroCymru i gynnal prosesau caffael contractau sy’n werth mwy na £25,000.

Mae eDendroCymru:

  • yn cynnig mynediad cyfleus i gyflenwyr at ddogfennau tendro
  • yn cynnig dull diogel o ddychwelyd tendrau
  • yn cynnig proses dryloyw ar gyfer codi ymholiadau yn ystod y broses dendro.

Amdanom ni

Mae trosolwg o’n timau ar gael yma.

Gallwch ganfod enghreifftiau o’n gwaith ar ein tudalen astudiaethau achos.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau drwy gofrestru i gael ein cylchlythyr, neu drwy ein dilyn ar LinkedIn neu X (Twitter gynt).

Darllenwch sut rydw i'n rheoli'ch data yn ein hysbysiad preifatrwydd.


Cyhoeddwyd gyntaf
01 Tachwedd 2024
Diweddarwyd diwethaf
01 Tachwedd 2024
Ennill contractau Llywodraeth Cymru

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.