14 Tachwedd 2024, 14:00 - 15:30
Digwyddiad ar-lein
Cost: Am ddim
Ymunwch â ni mewn gweminar sydd wedi ei chynllunio’n benodol ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn y sector gofal cymdeithasol sy’n dymuno datgarboneiddio a chychwyn neu barhau ar eu taith i leihau carbon. Bydd y sesiwn hon yn rhoi’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnoch i gymryd camau gweithredol tuag at leihau eich ôl troed carbon. Byddwch hefyd yn derbyn ôl-ofal arbennig i gwblhau neu ddatblygu cynllun lleihau carbon ymhellach.
Mae’r gwaith yma wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Bydd yr holl gefnogaeth a chyngor yn unol â gofynion lleihau carbon yr Awdurdod Lleol i’r dyfodol.
Beth fydd cynnwys y digwyddiad?
Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd Derbyn dealltwriaeth glir o beth mae cynaliadwyedd yn ei olygu i’ch busnes, effeithiau newid hinsawdd sy’n effeithio ar y sector gofal cymdeithasol, a pham mae hi’n bwysig gweithredu nawr.
Adrodd ar ôl troed Carbon: Dysgwch sut y gall Busnes Cymru weithio gyda chi i gyfrifo eich ôl troed carbon a deall y buddion cyflym o leihau eich ôl troed carbon.
Ymrwymo i Weithredu: Cael eich arwain drwy strategaethau datgarboneiddio sydd wedi eu teilwra i’r sector gofal cymdeithasol.
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?
BBaCh o fewn y sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Er y byddwn yn rhannu enwau busnesau gyda’r cyngor, ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol.
Archebwch nawr:
Business Wales Events Finder - Datgarboneiddio yn y sector Gofal Cymdeithasol: Cymorth gyda’ch Siwrne i Leihau Carbon
Cyhoeddwyd gyntaf
24 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
24 Hydref 2024